English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Mari Thomas

Pwy wyt ti?

Mari Thomas ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Astudiais i (I studied) Lefel A Celf (Art). Wedyn, astudiais i gwrs lefel Sylfaen (Foundation) mewn Celf a Dylunio (Design), Diploma Cenedlaethol Uwch mewn gemwaith (jewellery) a gof arian (silversmithing) a gradd (degree) mewn Dylunio 3D mewn Metel yn Ysgol Gemwaith Birmingham.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i'n hoffi gweithio gyda metelau gwerthfawr (valuable) - aur, arian a phlatinwm. Dw i wrth fy modd (I love) hefyd gyda cherrig gwerthfawr (valuable stones) o bob lliw.

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n dechrau gyda braslun (sketch), a dw i'n gwneud nodiadau a thynnu lluniau. Mae’r syniadau (ideas) ar gyfer gwaith yn datblygu (develops) o'r rhain (these).

Oes cyngor gyda ti i artist newydd?

Rydych chi'n dysgu rhywbeth o bob prosiect rydych chi'n wneud. Dydych chi byth yn stopio dysgu.

Beth yw eich cefndir?

Mae gen i gefndir mewn celf. Fe astudiais gwrs Safon Uwch Celf, cwrs blwyddyn Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn gemwaith a gof arian, a gradd mewn Dylunio Tri Dimensiwn mewn Metel yn Ysgol Gemwaith Birmingham. Fe ddechreuais fusnes dylunio a chreu gemwaith yn 1998 yng ngardd fy rhieni yn Llanelli dair blynedd wedi i fi raddio, cyn symud i weithdy a siop yn Abertawe. Bellach y mae gen i weithdy a galeri yng nghanol Llandeilo.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Rwy'n cael fy ysbrydoli a fy nylanwadu gan lawer o bethau. Rwy’n hoff iawn o deithio, yn enwedig i’r Eidal a Japan – dau le gwahanol iawn ond i mi maen nhw’n gyffrous yn weledol ac yn ddiwylliannol. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan waith dylunwyr eraill sy’n gwthio’r ffiniau. Mae’r rhain yn cynnwys dillad y dylunydd Vivienne Westwood a phensaernïaeth Zaha Hadid. Cafodd fy nawn creadigol ei ddylanwadu yn gynnar iawn gan athro celf o’r ysgol gyfun. Ei enw oedd Norman Davies; yn anffodus bu farw ond roedd mor frwd a chefnogol i’w fyfyrwyr fel bod y rhan fwyaf ohonom yn dal i weithio fel artistiaid heddiw. Fe ddysgodd e ni i gwestiynu, gofyn pam ein bod yn gwneud y marc neu'r siâp penodol hwnnw, beth oedd ein meddyliau y tu ôl iddo - dyma sylfaen fy mhroses ddylunio hyd heddiw.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Rwy'n cael fy ysbrydoli gan bethau sydd o ddiddordeb i mi. Rydw i wrth fy modd yn eu braslunio, gwneud nodiadau a thynnu lluniau ac mae syniadau ar gyfer fy ngwaith yn datblygu o'r rhain. Mae'n dibynnu ar y darn o waith neu'r deunydd pwnc. Weithiau rwy'n dechrau gyda braslun neu nodiadau o syniad annelwig ac yn dechrau arbrofi a chwarae gyda defnyddiau. Mae hyn yn galluogi'r defnyddiau bron i benderfynu sut bydd y darn yn debygol o edrych yn y diwedd - er enghraifft, os yw darn o arian yn ymestyn a hollti wrth i mi ei haenu a'i wthio i eithafion, byddaf yn ei dderbyn ac yn aml yn ei amlygu i ddod yn rhan gynhenid o'r dyluniad. Nid yw'n bosib gorfodi hyn ac mae'n wych pan fydd hynny'n digwydd. Weithiau, fodd bynnag, os bydd y dyluniad yn gofyn, byddaf yn cynllunio'n ofalus ac yn datrys problemau'r darn a'i adeiladwaith cyn i mi ddechrau gweithio arno'n gorfforol. Yna rydw i'n dilyn y dyluniad fel rydw i wedi’i gynllunio o flaen llaw. Dw i wastad wrth fy modd gyda’r broses olaf o orffen a rhoi sglein i’r darn, gan ei bod yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i fi, ond wedyn does dim y fath beth â pherffeithrwydd felly mae’n rhaid gwybod pryd i stopio cyn i chi or-sgleinio a difetha’r cyfan.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda metelau gwerthfawr, aur, arian a phlatinwm. Mae pob un metal yn ymateb ychydig yn wahanol wrth eu torri, eu symud a'u siapio neu eu huno, felly fy hoff ffordd o weithio yw pan fydd y defnydd yn dylanwadu ar edrychiad terfynol y darn. Mae lliwiau aur yn fy swyno'n fawr, mae aur yn felyn wrth gwrs ond mae wedi'i gymysgu â metelau eraill i'w wneud yn fwy gwydn i'w wisgo, a dyna pam mae gennym safonau'r DU o 9ct 19ct 22ct ac ati. Rydym wedi arfer ei weld wedi'i gymysgu i'w gadw mor felyn â phosib ond newidiwch y rysáit ac mae gennych chi amrywiaeth o liwiau - ychwanegwch fwy o gopr ac mae'r ymddangosiad yn aur rhosgoch neu goch, ond mae ychwanegu arian a phaladiwm yn ei wneud yn wyn. Ar hyn o bryd rwy'n chwarae o gwmpas gyda chymysgu alwminiwm er mwyn rhoi gwawr borffor i’r aur.

Yn ogystal â'r metelau rwy’n eu defnyddio, rwyf wrth fy modd hefyd yn chwarae gyda cherrig gwerthfawr a lled werthfawr o bob lliw a'u cymysgu gyda metelau sy’n cyd-fynd â nhw. Ond os ydw i eisiau i fy nyluniadau ddisgleirio yna mae'n rhaid defnyddio diemwntau!

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Mae’r newid neu ddatblygiad yn fy ngwaith i’w weld a’i olrhain trwy fy nghasgliadau a chomisiynau – mae’n anochel gan fy mod yn esblygu, yn tyfu ac yn dysgu’n gyson. Rwy'n dal i gynhyrchu rhai o'r casgliadau y dechreuais eu gwneud yn syth o'r brifysgol gan eu bod wedi aros yn amserol o ran dyluniad ac yr un mor boblogaidd gyda fy nghwsmeriaid ag yr oeddent ar y cychwyn. Efallai fy mod wedi eu haddasu ychydig ond ar y cyfan maent yr un peth a gallaf eu cysylltu yn ôl i'r union frasluniau a wnes i yn y brifysgol.

Fy man cychwyn bob tro yw meddwl am rywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo, pwnc yr wyf am ei archwilio, ei astudio, ei gwestiynu i'w ailddiffinio a'i ailddychmygu.

I mi roedd yn ymwneud â hunaniaeth, fy hunaniaeth Gymreig fy hun fel rhywun di-Gymraeg o Lanelli. Beth oedd Cymru yn ei olygu i mi a sut roeddwn i'n perthyn i'm hamgylchedd a'm diwylliant a sut roedd hyn yn cyd-fynd â'r delweddau poblogaidd o Gymru sy'n cael eu cyflwyno'n fyd-eang? Roeddwn i eisiau newid y naratif a gwneud gwaith y gallwn uniaethu ag ef, felly dyluniais ddarnau a oedd yn arw fel rhannau o’r tirwedd, haenau a manylion a oedd fel y creigiau a’r llechi. Mae haenu'r metel yn cynrychioli strwythur llechi a ddarganfuwyd yng Nghymru ond i mi roedd yn cyfeirio at gwestiynu'n gyson beth oedd o dan yr wyneb.

Mae geiriau yn y Gymraeg (ac weithiau’r Saesneg) wastad wedi eu hysgrifennu mewn cerfwedd ac yn fy llawysgrifen fy hun. Mae hyn yn rhywbeth sy'n ei wneud yn bersonol ond hefyd yn bwerus. Mae eu hystyr neu'r teimlad tu ôl iddynt weithiau'n cael eu colli dros amser neu drwy eu cyfieithu, felly roeddwn i eisiau ychwanegu'r cysylltiad yma fel ei bod yn bosib eu cyffwrdd a'u teimlo gan ganiatáu i'r gwisgwr ychwanegu ei stori ei hun at y darnau.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

“Rydym wedi arfer ei weld wedi'i gymysgu, i'w gadw mor felyn â phosib, ond newidiwch y rysáit ac mae gennych chi amrywiaeth o liwiau - ychwanegwch fwy o gopr ac mae'r ymddangosiad yn aur rhosgoch neu goch, ond mae ychwanegu arian a phaladiwm yn ei wneud yn wyn. Ar hyn o bryd rwy'n chwarae o gwmpas gydag aloi alwminiwm sy’n rhoi gwawr borffor i’r aur.”
aur
aur
+ copr
aur
+ arian
+ paladiwm
aur
+ alwminiwm

Gweithgaredd 2

Fragile Form 2
“Mae geiriau yn y Gymraeg (ac weithiau yn Saesneg) wastad wedi eu hysgrifennu mewn cerfwedd ac yn fy llawysgrifen fy hun, sy'n ei wneud yn bersono. Ond hefyd mae geiriau’n bwerus, gan fod eu hystyr neu'r emosiwn y tu ôl iddynt weithiau'n cael eu colli dros amser neu gyfieithiad, felly roeddwn i eisiau ychwanegu'r cysylltiad yma fel y gellir eu cyffwrdd a'u teimlo gan ganiatáu i'r gwisgwr ychwanegu ei stori ei hun at y darnau.”

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

gemwaith - crefftwaith yn defnyddio mwynau neu gerrig gwerthfawr - jewellery

gof arian - rhywun sy’n gwneud pethau allan o arian - silversmith

pensaernïaeth - y broses o gynllunio a chreu adeiladau - architecture

annelwig - rhywbeth sydd ddim yn glir - vague

haenu - to layer

eithafion - extremes

cynhenid - yn perthyn i rywun neu rywbeth - intrinsic

gwydn - rhywbeth sy’n gadarn, caled, cryf - durable

paladiwm - metel sy’n debyg i blatinwm - palladium

anochel - methu ei osgoi - inevitable

esblygu - newid / tyfu dros amser - to evolve

hunaniaeth - pwy ydyn ni, sut rydyn ni'n adnabod ein hunain – identity

cerfwedd - elfennau tri dimensiwn sy'n codi o gefndir gwastad - relief