English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Manon Awst

Pwy wyt ti?

Manon Awst ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Sir Fôn, gogledd Cymru.

Ble cest ti dy addysg?

Es i Ysgol Bodedern. Wedyn, es i i Goleg Menai a Phrifysgol Caergrawnt (Cambridge). Yng Nghaergrawnt, astudiais i (I studied) bensaernïaeth (pensaernïaeth = architecture).

Pa ddefnyddiau (materials) wyt ti’n hoffi defnyddio?

Mae hyn yn amrywio (varies) llawer. Mae’n dibynnu (depends) ar y project. Dros y blynyddoedd, dw i wedi defnyddio pren (wood), metel, gwydr, cerrig, concrid, rhew, gelatin, grawnwin, cregyn (shells), gwrychoedd (hedges) a phridd (pridd - soil).

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n datblygu (develop) syniadau i ddechrau. Dw i’n meddwl am bynciau (pynciau = subjects) diddorol. Hefyd, dw i’n meddwl pwy sy’n mynd i weld y gwaith. A ble bydd y gwaith – mewn oriel (gallery) neu tu allan (outside)?

Dw i’n defnyddio llyfrau braslunio (sketchbooks). Dw i hefyd yn casglu (collect) delweddau (images).

Pan dw i’n creu (create) y gwaith, rhaid i fi feddwl oes angen help. Er enghraifft, os dw i’n gwneud gwaith mawr a chymhleth (cymhleth = complicated), dw i’n cael help gan gof (blacksmith) neu saer (carpenter). Neu os dw i’n gwneud ffilm, dw i'n cael help rhywun i wneud trac sain (soundtrack).

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy magu ar Ynys Môn a mynychais Ysgol Uwchradd Bodedern cyn gwneud cwrs Sylfaen Celf a Dylunio am flwyddyn yng Ngholeg Menai, Bangor. Roeddwn yn hoff iawn o’r pwnc celf ers dechrau’r ysgol uwchradd, ond hefyd yn hoffi gwyddoniaeth. Astudiais Gelf, Bioleg a Mathemateg i Safon Uwch a phenderfynu fy mod am astudio Pensaernïaeth yn y Brifysgol. Cyn mynd i Brifysgol Caergrawnt i wneud hynny, rhoddodd y cwrs Sylfaen gyfle i mi arbrofi gyda gwahanol arddulliau a defnyddiau, yn ogystal â magu hyder wrth drafod cysyniadau a hanes celf. Roeddwn yn cydweithio gyda’r artist Almaenig Benjamin Walther dan yr enw ‘Awst & Walther’ am ddeng mlynedd rhwng 2007 – 2017 ac yn rhannu ein hamser rhwng Caernarfon a Berlin.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Land Art – artistiaid oedd yn archwilio’r berthynas rhwng tirwedd neu safle benodol a chelf yn yr 1960au e.e., Richard Long, Robert Smithson, Nancy Holt a Joseph Beuys. Roedd yr artistiaid hyn yn chwareus iawn efo defnyddiau a ffurfiau ac yn gwthio ffiniau celf wrth ei thynnu allan o orielau ac amgueddfeydd, a hefyd wrth greu gwaith ar raddfa fawr neu bensaernïol hyd yn oed. Roeddent yn defnyddio’r tir neu bridd neu gerrig fel defnyddiau crai yn eu celf, ac yn ceisio newid persbectif pobl am y byd o’u cwmpas. Yn fwy diweddar, mae artistiaid fel Olafur Eliasson, Pierre Huyghe, Roni Horn (a finnau drwy waith Awst & Walther) yn datblygu’r un themâu ond mewn cyd-destun cyfoes. Mae hyn yn eithriadol o bwysig, yn fy marn i, o ystyried yr argyfwng ecolegol, cynhesu byd-eang a phroblemau cymdeithasol cysylltiedig.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Datblygu syniadau sy’n dod gyntaf: meddwl am bynciau sy’n fy niddori, a beth ydw i eisiau ei ddweud efo’r darn. Pwy yw’r gynulleidfa, a pha fath o effaith bydd y darn yn ei chael ar bobl sy’n ei weld? Lle mae am gael ei arddangos – mewn oriel neu'r tu allan? Sut fath o gyllid sydd ar gael ar gyfer creu’r darn? Mae hyn oll yn effeithio ar ddefnyddiau a ffurf y darn celf e.e. cerflun / gosodiad / ffilm / perfformiad.

Rydw i’n gweithio lot fawr mewn llyfrau braslunio – yn gwneud nodiadau a brasluniau o wahanol ddarnau ac amrywiol fersiynau ohonynt. Rydw i hefyd casglu delweddau a’u gludo i fewn. Dyma sut rwy’n casglu syniadau.

Yn olaf, y creu ei hun – ydw i’n gallu creu’r darn fy hun yn y stiwdio, neu oes angen help technegydd? Mae’n dibynnu ar y defnyddiau a maint y darn yn aml e.e., os ydw i’n creu ffilm, mi alla i wneud llawer o’r gwaith fy hun ond efallai mod i eisiau i gerddor gyfansoddi darn sain. Ond os yw’r darn yn fawr a chymhleth allan o fetel neu bren, bydd angen i mi gydweithio efo gof neu saer.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych chi'n mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Mae hyn yn amrywio yn fawr a dydw i ddim yn cyfyngu fy hyn i un palet o ddefnyddiau, ond yn defnyddio ystod eang yn dibynnu ar y prosiect. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi defnyddio pren, metel, gwydr, cerrig, concrid, rhew, gelatin, grawnwin, cregyn, gwrychoedd a phridd. Mae’n bwysig bod yn agored efo defnyddiau, er mwyn medru dewis beth sy’n fwyaf perthnasol ar y pryd, yn fy marn i. A chwilio am ddefnyddiau newydd, diddorol yn gyson.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Drwy’r profiad o arddangos fy ngwaith mewn dinasoedd gwahanol dros y blynyddoedd (yn cynnwys Caerdydd, Llundain, Berlin, Prag, Basel a Moscow), rwyf wedi dod yn llawer mwy hyderus ac yn fwy parod i fynegi fy hunaniaeth yn y gwaith. Cymraes ydw i, efo fy ffordd unigryw o edrych ar y byd o ‘nghwmpas. Mae’n brofiad anhygoel cerdded i lawr stryd yng nghanol Berlin a gweld gosodiad enfawr o gregyn gleision a gasglais ar lannau’r Fenai. Mae’n bwysig cadw gafael ar yr hyn sy’n eich diddori a’ch cyffroi chi, a dathlu’r hyn sy’n eich gwneud chi’n unigryw, oherwydd mae gan bob artist ei stori bersonol ei hun i’w rannu efo’r byd.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

morol
gleision
tonnog
manwl
tal
cregyn
wal
Berlin
adeilad
gosodiad

Gweithgaredd 2

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

pensaernïaeth - y grefft o gynllunio adeiladau - architecture

cysyniad(au) - syniad(au) haniaethol (abstract) - concept(s)

cyd-destun cyfoes - amgylchiadau sy’n berthnasol heddiw – contemporary context

gosodiad - darn o gelf 3D sy’n perthyn i le arbennig - installation

gof - crefftwr mewn metel - blacksmith

saer - crefftwr mewn pren - carpenter

gwrych(oedd) - clawdd o lwyni neu goed isel o gwmpas cae neu ardd - hedges

hunaniaeth - pwy ydyn ni, sut rydyn ni'n adnabod ein hunain - identity