English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Ann Catrin Evans

Pwy wyt ti?

Ann Catrin Evans ydw i.

Ble cest ti dy eni?

Ces i fy ngeni ym Mangor, Gogledd Cymru.

Ble cest ti dy addysg?

Es i Brifysgol Bangor rhwng 1987-88 i astudio cwrs sylfaen (foundation) mewn celf (art). Es i ymlaen i Brifysgol Brighton a gwnes i gwrs gradd BA Dylunio (Design) 3D mewn pren (wood), metel, serameg a phlastig.

Pa ddefnyddiau (materials) wyt ti’n hoffi defnyddio?

Dw i’n hoffi defnyddio dur (steel) i wneud addurniadau (decorations) i’r cartref. Dw i hefyd yn defnyddio efydd di-staen (stainless bronze), alwminiwm, arian, copr ac aur (gold) i wneud fy ngemwaith (gemwaith - jewellery).

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n dylunio (design) syniadau (ideas) yn gyntaf.

Dw i'n gwneud popeth â llaw (by hand).

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy ngeni ym Mangor yn 1967 ac ar ôl astudio Cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mhrifysgol Bangor yn 1987-88, fe es i i Brifysgol Brighton i ddilyn cwrs gradd BA Dylunio 3D mewn pren, metel, cerameg a phlastig, gan raddio yn 1989.

Rwy’n gerflunydd a gemydd adnabyddus a rhyngwladol sydd wedi arddangos fy ngwaith yng Nghymru, Prydain, America a Japan. Rwyf hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y byd crefftau Cymreig ers dros 25 mlynedd ac wedi ennill y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993.

Rwyf wedi creu celf gyhoeddus ar raddfa fawr, a cherfluniau pensaernïol sydd i’w gweld ar ddrysau adeilad Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Yn ogystal â chreu darnau ar raddfa fawr, rwyf hefyd yn mwynhau creu gwaith bach a manwl ar ffurf gemwaith wedi'i ddylunio mewn metelau cyferbyniol.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Gellir dweud bod treftadaeth a diwylliant Cymreig wedi cael dylanwad ar fy ngwaith gan gyfuno harddwch gwaith crefft ac ymarferoldeb y darn. Rwy'n awyddus i greu darnau sy'n brydferth ac yn ddefnyddiol.

Rwy’n hoff o symlrwydd mewn dyluniad. Ceisiaf ddangos cymeriad deunyddiau crai yn y cynllun drwy ehangu nodweddion organig naturiol a chynnwys manylion cain mewn darn o gelfyddyd. Rwy'n caru'r syniad o gael gwrthrychau hardd o’n cwmpas. Rwy’n mwynhau’r broses o ddylunio gyda hyn mewn golwg, a chreu ffurf haniaethol sy’n cyfleu stori neu naratif neu deimlad.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Yn bennaf, byddaf yn defnyddio proses o ddylunio syniadau yn gyntaf, cyn mynd ati i ddefnyddio dulliau traddodiadol, fel castio a ffabrigo cyffredinol, yn ogystal â dulliau mwy cyfoes gyda thechnoleg wrth dorri ar y laser a phrototeipio cyflym. Mae pob darn wedi ei wneud â llaw. Mae gweithio mewn metelau drudfawr yn ogystal â haearn a metelau sylfaenol yn meithrin sgiliau technoleg newydd a thechnegau'r gof, gan arwain at ddatblygu'n barhaus.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Byddaf yn defnyddio dur yn bennaf wrth greu darnau addurniadol i’r cartref, ond hefyd efydd di-staen, alwminiwm, arian copr ac aur i greu fy ngemwaith. Mae cydbwysedd, cyfrannedd a symlrwydd yn nodweddion allweddol yn fy ngwaith.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Mae fy ngwaith wedi datblygu a newid gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a’i gyfuno gyda thechnegau traddodiadol wrth greu gwaith 3D.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

“Cefais fy ngeni ym Mangor yn 1967 ac ar ôl astudio Cwrs Sylfaen mewn Celf ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1987-88 fe es i i Brifysgol Brighton i ddilyn cwrs gradd BA Dylunio 3D mewn pren, metel, seramig a phlastig a graddio ym 1989.”
“Rwy’n gerflunydd a gemydd adnabyddus a rhyngwladol sydd wedi arddangos fy ngwaith yng Nghymru, Prydain, America a Siapan. Rwyf hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y byd crefftau Cymreig ers dros 25 mlynedd ac wedi ennill y Fedal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993.”
“Byddaf yn defnyddio dur yn bennaf wrth greu darnau addurniadol i’r cartref, ond hefyd efydd di-staen, alwminiwm, arian copr ac aur i greu fy ngemwaith. Mae cydbwysedd, cyfran a symlrwydd yn nodweddion allweddol yn fy ngwaith.”
“Yn bennaf byddaf yn defnyddio proses o ddylunio syniadau yn gyntaf cyn mynd ati i ddefnyddio dulliau traddodiadol, castio a gwneuthuriad cyffredinol yn ogystal â dulliau mwy cyfoes gyda thechnoleg wrth dorri ar y laser a phrop teipio cyflym. Mae pob darn wedi ei wneud â llaw. Mae gweithio mewn metelau drudfawr yn ogystal â haearn a metelau sylfaenol yn meithrin sgiliau technoleg newydd a thechnegau'r gof gan ddatblygu yn barhaus.”

Gweithgaredd 2

Dylanwad y llwy garu sydd ar y darnau hyn. Yn gyntaf, edrychwch ar y darnau fesul un. Beth allwch chi ei weld? Pa symbolau sydd?

Nawr, darllenwch y disgrifiadau hyn a’u llusgo i’r llefydd cywir ar y llun:

1.
2.
3.
4.
  1. Dau berson yn wynebu’i gilydd, yn cofleidio (cwtshio). Ysgol i’w dringo gyda’i gilydd.
  2. Adenydd yn cludo modrwy.
  3. Tair calon. Cydbwysedd. Harmoni.
  4. Dwy galon fel bysedd cloc yn hongian o fodrwy.

Allwch chi greu disgrifiadau tebyg gyda’r darnau eraill?

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

gemydd - person sy’n trin gemau - jeweller

pensaernïol - yn perthyn i fyd cynllunio a chodi adeiladau - architectural

Canolfan Mileniwm Cymru - Wales Millennium Centre

treftadaeth - pethau sy’n perthyn i genedl neu ardal ac sy’n cael eu gwarchod a’u trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf - heritage

diwylliant - syniadau, arferion, ac ymddygiad cymdeithasol pobl - culture

deunyddiau crai - deunyddiau heb gael eu trin - raw materials

cain - fine

gwrthrych(au) - pethau rydyn ni'n gallu eu gweld a'u cyffwrdd - objects

haniaethol - celf sydd ddim yn ceisio darlunio pethau mewn ffordd real neu ddim yn y ffordd rydyn ni fel arfer yn eu gweld

castio - darnau sydd wedi eu gwneud o ddeunydd (fel arfer metel) sydd wedi cael ei doddi ac yna ei arllwys i fowld - casting

ffabrigo - y broses o greu darn mawr o gelf, neu gelf sy'n anodd i'w chreu yn dechnegol - fabrication

cyfoes - modern

prototeipio - gwneud fersiwn drafft sy'n gadael i'r artist edrych ar ei syniadau cyn creu'r darn - prototyping

gof - rhywun sy’n gweithio â haearn - blacksmith

addurniadol - rhywbeth sy'n addurno - decorative