English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Peter Finnemore

Pwy wyt ti?

Peter Finnemore ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Llanelli.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Uwchradd y Berwyn, y Bala.

Disgrifia dy addysg.

Es i i’r Coleg Celf yng Nghaerfyrddin. Hefyd, astudiais i (I studied) Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Glasgow. Wedyn astudiais i yn Michigan, Gogledd America.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n mwynhau gwneud delweddau (images) du a gwyn.

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n argraffu (print) y delweddau du a gwyn mewn ystafell dywyll (tywyll = dark). Mae’n cymryd llawer o amser ond dw i’n credu bod delweddau du a gwyn fel hyn yn rhoi mwy o gymeriad (more character) na phrintiau digidol (digital).

Beth yw eich cefndir?

Ar hyn o bryd rwy’n artist ffotograffig sy'n gweithio o fewn y sbectrwm celfyddyd gain. Rwy'n gweithio ar syniadau am fywgraffiadau, diwylliant a hanes. Cefais fy ngeni yn Llanelli ac fe ddechreuais ymddiddori mewn ffotograffiaeth tra oeddwn i yn yr ysgol. Cefais i fy mhrofiad ymarferol cyntaf o ffotograffiaeth pan ymunais â chymdeithas ffotograffiaeth amatur Llanelli. Er mwyn magu mwy o brofiad mewn ffotograffiaeth a chelf, fe wnes i fynychu'r Cwrs Sylfaen mewn celf yng Nghaerfyrddin. Yna astudiais Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Glasgow ac yn ddiweddarach gwnes i radd Meistr mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Michigan, UDA.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Fy mhrif ysbrydoliaeth yw fy nhiwtor ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Glasgow – Thomas Joshua Cooper, sef artist ffotograffig Americanaidd sy’n gwneud ffotograffau tirwedd du a gwyn anhygoel. Gwnaeth ei angerdd at addysgu a ffotograffiaeth, a'i syniadau creadigol am sut i gyfleu'r byd o’i gwmpas, ysbrydoli fy ngyrfa fel artist.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Rwy'n mwynhau gwneud delweddau a'u hargraffu yn ddu a gwyn mewn ystafell dywyll draddodiadol. Er bod hon yn broses sy'n cymryd llawer o amser, rwy’n credu bod ganddyn nhw fwy o gymeriad a phresenoldeb na phrintiau digidol.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Rwyf wrth fy modd yn tynnu ffotograffau, ond yn anffodus dyna’r rhan hawdd, felly mae fy ngwaith wedi gorfod datblygu perthynas glos â chymhlethdod ffotograffiaeth. Rydw i hefyd wedi dod i werthfawrogi'r berthynas rhwng ffotograffau â chyfryngau artistig eraill. Rwyf felly'n hoffi defnyddio ffotograffau mewn perthynas â gosodwaith a gwaith sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Mae fy nefnydd o dechnoleg ffotograffig hefyd wedi esblygu, o weithio i ddechrau gyda ‘phroses analog’ i ddefnyddio technolegau digidol cyfoes. Mae ffotograffiaeth a'i rôl o fewn amser yn ffactor pwysig yn fy ngwaith, felly rwy'n defnyddio ffotograffiaeth a gwneud fideos.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Gwyliwch y fideo hwn:

Incantation from Peter Finnemore on Vimeo.

Mae diwylliant a chofio’n themâu canolog yng ngwaith Peter Finnemore. Cliciwch ar y llun (o’r fideo) a darllenwch y cwestiynau. Meddyliwch ac yna gwyliwch y fideo eto. Trafodwch gyda phartner.

Gweithgaredd 2

Peter Finnemore The Third Noble Truth 2004

Weithiau, mae Peter Finnemore yn defnyddio hiwmor fel defnydd ychwanegol yn ei waith. Mae’n defnyddio hiwmor i bortreadu neges ddifrifol – weithiau diwylliannol neu filwrol.

Yn y llun hwn, mae Peter Finnemore yn gwisgo gwisg cuddliw. Mae’r wisg filwrol cuddliw yn symbol am Gymru yn ei waith e. Mae’r trosiad o 'guddliw diwylliannol’ yn cyfleu hunaniaeth, ymdoddi i gefndir a goroesi.

Dyma rai geiriau i’ch helpu i drafod y llun hwn:

cuddliw
dyfrio
gwyrddni
gardd
ffa dringo
milwr
milwrol
hunaniaeth
ymdoddi
goroesi
blodyn haul
difrifol
symbol
trosiad
diwylliannol

Didolwch y geiriau yn ôl eu swyddogaeth:

Enw Ansoddair Berf

Allwch chi wneud dehongliad arall gan gofio mai’r blodyn haul yw blodyn cenedlaethol yr Wcrain? Trafodwch. Defnyddiwch frawddegau fel hyn:

Rydw i’n meddwl bod y _________ yn symboleiddio…

Rydw i’n credu bod y __________ yn awgrymu…

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

bywgraffiad - hanes bywyd rhywun wedi’i ysgrifennu gan rywun arall - biography

amatur - rhywun nad yw’n broffesiynol - amateur

tirwedd - y tir a’r olygfa ohono, neu'r gelfyddyd o ddarlunio hyn – landscape

gosodwaith - darn o gelf 3D sy’n perthyn i le arbennig – installation

esblygu - newid drwy ddatblygu - to evolve

cyfoes - modern