English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Tim Pugh

Pwy wyt ti?

Tim Pugh ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yng Nglannau Dyfrdwy a’r Rhyl.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Uwchradd y Rhyl.

Disgrifia dy addysg.

Es i i Goleg Celf Wrecsam. Wedyn, es i i Goleg Celf Caeredin (Edinburgh) i wneud gradd mewn Cerameg.

Pa fath o artist wyt ti?

Artist Amgycheddol (Environmental) ydw i.

Pa ddefnyddiau rwyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hoffi lliw’r dail yn yr hydref (autumn) a phethau naturiol eraill sy’n dod o’r tymhorau (seasons).
Hefyd, dw i'n defnyddio pethau dw i'n ffeindio ar y traeth yn Cumbria.

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n gweithio yn yr awyr agored (open air). Dw i’n hoffi gweithio’n gyflym i greu llun mewn un diwrnod rhag ofn (in case) bydd natur yn dinistrio (destroy) popeth.

Beth yw eich cefndir?

Arlunydd Amgylcheddol ydw i a dw i’n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint a Gorllewin Cumbria. Cefais i fy magu mewn gwahanol leoliadau yng Nglannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Y Rhyl, es i i Goleg Celf Wrecsam i wneud Diploma Cenedlaethol Uwch mewn cerameg. Yna es i i Goleg Celf Caeredin i wneud gradd mewn cerameg. Ar ôl byw am gyfnod yn yr Alban, dychwelais i i Mancot i fyw gyda fy Mam-gu a pharhau i ddatblygu fy ngyrfa fel arlunydd.

Dechreuais i arddangos fy ngwaith mewn orielau ledled Cymru ac, yn raddol iawn, ledled y DU a thramor, yn ogystal â chynnal gweithdai cymunedol ac mewn ysgolion. Rydw i wedi cymryd rhan mewn llawer o breswyliadau, rhaglenni cyfnewid, a phrosiectau tymor hir eraill ledled y DU ac yn rhyngwladol ynghyd ag ennill gwobrau a grantiau teithio. Mae fy mhrosiectau tramor wedi cynnwys celf palmant yn Dubai, gweithdai cymunedol yng Ngwlad Pwyl ac Ewrop, preswyliadau celf-eira yn Montana, UDA, Tasmania a'r Swistir a gweithdai ysgolion yn Oviedo yn Sbaen.

Rydw i wedi bod yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn ddiweddar, mynychais i breswyliad Celf Amgylcheddol / Gŵyl Gelf y Ddaear yn Llano, Texas.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Mae llawer o artistiaid wedi dylanwadu arna i, fel Richard Long, Andy Goldsworthy, Henry Moore, Robert Smithson a llawer o artistiaid eraill sy’n gweithio gydag amrywiaeth eang o wahanol gyfryngau a deunyddiau. Cefais i fy ysbrydoli gan athrawon a darlithwyr coleg ar hyd y ffordd a chefais fy annog i ymchwilio i lawer o artistiaid ac i roi cynnig ar wahanol brosesau. Yng Nghaeredin, cefais i fy annog i weithio gyda chlai yn yr awyr agored ac roedd hyn wedi fy arwain yn raddol i weithio gyda deunyddiau naturiol ac i greu a lleoli gwaith mewn lleoliadau naturiol safle-benodol.

Yn gyffredinol, rydw i'n cael fy ysbrydoli'n fawr gan fyd natur ac rydw i bob amser wedi mwynhau casglu ffosiliau. Mae gen i ddiddordeb mewn seryddiaeth, tyfu cacti a gweithgareddau awyr agored eraill sydd wedi dylanwadu ar fy ngwaith. Yn aml, rydw i’n tynnu lluniau o wrthrychau naturiol ac yn fwy diweddar rydw i wedi ymgorffori darnau a gafodd eu darganfod ar y traeth yn fy ngwaith, fel crochenwaith Fictoraidd a deunyddiau plastig a gasglais o linell y llanw.

Rydw i’n cael fy ysbrydoli gan gefn gwlad ac rydw i’n hoffi casglu cregyn yn ogystal â cherdded rhostiroedd yng ngorllewin Cumbria. Dydw i ddim yn gyrru ond rydw i’n hoffi beicio i'r mynyddoedd i gerdded, tynnu lluniau ac ymchwilio i leoedd newydd er mwyn creu gwaith.

Esboniwch y broses byddwch chi'n ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Wrth greu gwaith awyr agored neu wrth greu gosodiadau wedi'u comisiynu mewn oriel, yn aml bydda i’n braslunio syniadau cychwynnol ymlaen llaw: fel taflenni dylunio sy'n cofnodi fy mhrosesau meddwl gan ddefnyddio ystod eang o gyfryngau cymysg. Mae'r rhain yn aml yn cael eu harddangos wrth ymyl fy ngosodiadau sydd hefyd yn helpu i gyfleu fy syniadau i bobl eraill.

Rydw i'n gweithio fwyfwy ar draethau ac i baratoi ar gyfer hyn rydw i bob amser yn gwirio rhagolygon y tywydd ymlaen llaw! Yn aml, does dim syniad penodol gen i cyn mynd i'r traeth neu'r coetir. Rydw i’n ymateb i’r defnyddiau mae'r llanw wedi'u golchi ar y traeth neu i'r tymhorau sy'n penderfynu pa weddillion coetir sydd ar gael.

Yn aml, rydw i’n ymgorffori mapiau, lluniadau a thestun yn fy ngwaith, efallai o ganlyniad i ymchwil flaenorol a wnes i ar-lein neu wrth ymweld â llyfrgelloedd. Rydw i bob amser yn cario llawer wrth weithio yn yr awyr agored ac yn mynd â chamera fformat canolig a chamera ffilm 35mm, yn ogystal â dau gamera digidol a thripod i gofnodi fy ngwaith. Rydw i bob tro’n pacio deunyddiau celf amrywiol ac yn aml iawn bydda i’n mynd â nhw gyda mi ar feic, bws neu drên, i gyrraedd safleoedd amrywiol.

Rydw i'n hoffi gweithio'n gyflym yn yr awyr agored, gan greu celf ymyrraeth neu dynnu lluniau creigiau o fewn diwrnod, oherwydd yn aml iawn bydd natur yn ymyrryd dros nos, fel y llanw'n dod i mewn neu eira trwm neu law yn dod a dileu pob ôl neu awgrym o’r gwaith celf.

Wrth greu gosodiadau ar gyfer orielau, bydda i’n cymryd mwy o amser i greu ymatebion, hyd at wythnos efallai, lle galla i leoli ac adeiladu sawl darn o waith celf neu galla i hongian ffotograffau a lluniadau mwy.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych chi’n mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Mae yna lawer o ddeunyddiau rydw i wedi mwynhau eu trin dros y blynyddoedd, pob un â'u priodweddau a'u nodweddion unigryw eu hunain. Mae dail ffawydd hydrefol ffres yn foddhaol iawn pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio i greu trefniadau â lliwiau wedi'u cydgysylltu a hefyd dyddodion tymhorol eraill o'r fflora a'r ffawna.

Mae eira hefyd yn gyfrwng sy’n mynd yn fwy prin i greu ymatebion 2 a 3 dimensiwn. Tra oeddwn i ar breswyliad gaeaf ym Mhrifysgol Montana yn Bozeman daeth eira yn yr Hydref, felly cyfunais weithiau celf amgylcheddol â deunyddiau'r hydref a'r gaeaf a uwcholeuodd eu lliwiau a'u gweadau unigol eu hunain. Pan ddychwelais i Gymru ym mis Rhagfyr, cawson ni gyfnodau estynedig pellach o eira, ac roedd fy nhymor gaeaf wedi estyn i fis Ebrill gan roi amser hir i fi arbrofi gyda'r gwlybanwch gaeafol. Roedd yn syndod gweld y gwahaniaethau rhwng ansawdd eira America a Chymru.

Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn gweithio gyda deunyddiau gwneuthuredig fel gwydr Fictoraidd a cerameg, a olchwyd i linell y llanw yn Whitehaven yn Cumbria. Cafodd y traeth ei ddefnyddio fel tir dympio neu domen sbwriel; cafodd sbwriel domestig ei ollwng oddi ar yr harbwr yn syth i'r môr. Rydw i wedi adfer creiriau hardd, sy’n adlewyrchu cenhedlaeth a fu, a dw i wedi creu mapiau safle-benodol a gweithiau celf dros dro eraill sy’n cynnwys y cynhyrchion hyn.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Am nifer o flynyddoedd roeddwn i’n creu gweithiau celf 'addurniadol' ac yn teimlo fy mod i mewn rhigol greadigol, yn creu troellau a phatrymau 'tlws' eraill a wnaeth i fi symud i ffwrdd o’r math yma o weithiau wedyn. Torrodd y cyfnod hwn pan wnes i ymgymryd â phreswyliad Montana lle cwrddais i â thiwtoriaid ysbrydoledig a wnaeth fy annog i ystyried materion eraill gallwn i eu hymgorffori yn fy ngwaith. Roedd eisioes gen i ddiddordeb mewn materion cyfoes a materion amgylcheddol a dechreuodd y rhain ymddangos yn fy ngwaith. Ers hynny, rydw i wedi adeiladu ar fy mhortffolio trwy wneud celf sy’n cael ei dylanwadu gan faterion gwyrdd, ond sydd hefyd yn cadw lefel neu elfen addurniadol.

Mae darganfod Traeth y De yn Cumbria wedi rhoi hwb ac ysgogiad pellach i ddatblygu ac arbrofi gyda'r amrywiaeth helaeth o weddillion sydd wedi'u golchi i linell y llanw. Mae'r traeth i bob pwrpas wedi llywio ac arwain fy arfer lle dw i wedi creu llawer o enghreifftiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phryderon amgylcheddol trwy ddefnyddio plastigau a chynhyrchion niweidiol eraill.

Mae'r traeth penodol hwn ar gau i'r cyhoedd oherwydd tomenni ansefydlog o hen lofa sy’n ei wneud yn lleoliad peryglus ond dw i wedi dod o hyd i fynediad cudd sy’n cael ei ddefnyddio gan bysgotwyr lleol. Mae'r tomenni hyn wedi'u llyfnu i gerrig mân gwenwynig sy’n gallu cynhyrchu effeithiau hyfryd wrth eu crafu ar arwynebau llyfn.

Mae conau a phibellau plastig, sydd wedi'u golchi i fyny ar hap, yn rhoi cyfle i wneud creadigaethau lliwgar ardderchog, yn enwedig ar ôl stormydd. Mae elfen o chwarae a hiwmor wedi ymddangos yn fy ngwaith, yn creu lluniadau o deganau plastig coll ar blastig. Mae fy nghartrefi yn Cumbria a Chymru yn llenwi’n raddol â deunyddiau rydw i wedi'u hel ac maen nhw bellach yn rhan o'r adnoddau addysgol sy’n dod gyda fi i ysgolion er mwyn i ddisgyblion archwilio a myfyrio ar faterion amgylcheddol.

Mae’n gallu bod yn beryglus wrth gwrs, ond mae'r traeth yn parhau i fod yn lle cadarn a hynod o ddiddorol i greu a dyma fy hoff leoliad ar hyn o bryd.

Yn ystod y cyfnodau clo, creais gyfres o weithiau celf yn seiliedig ar arwyddion ffyrdd o’r dyfodol sy'n rhybuddio am feirws covid. Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn pwysleisio’r trosglwyddiad ac esblygiad sy'n gyffredin yn fy ngwaith ac rwy'n parhau i weithio yn yr un modd.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

carreg
cragen
deilen
brigyn
mochyn coed
mwyaren
bricsen
haden
asgwrn
moch coed
brics
dail
esgyrn
hadau
brigau
cregyn
cerrig
mwyar

Gweithgaredd 2

Mae Tim Pugh yn defnyddio deunyddiau naturiol. Mae’n dibynnu ar beth sydd ar gael ar y pryd. Pan fydd e ar lân y môr, gall e ddefnyddio amrywiol a . Weithiau mae’n dod o hyd i wydr a . Mewn coedwig, mae deunyddiau fel , hadau a .

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

preswyliad(au) - pan fydd artist yn gweithio mewn sefydliad am gyfnod (weithiau mewn gwledydd tramor), gan roi cyfle iddo weithio ar brosiect neu ddatblygu syniadau newydd mewn lle gwahanol – residency

safle-benodol - darn o gelf sydd wedi ei lunio ar gyfer lleoliad penodol ac sydd â pherthynas â'r lle hwnnw - site-specific

seryddiaeth - astudio’r pethau sydd yn y bydysawd ond y tu hwnt i’r Ddaear - astronomy

celf ymyrraeth - pan fydd y gwaith celf yn rhyngweithio â gwaith celf arall, cynulleidfa, lleoliad neu sefyllfa sy’n bodoli yn barod – art intervention

dail ffawydd - dail o’r goeden ffawydd – beech leaves

cydgysylltu - elfennau’n dod at ei gilydd mewn harmoni - coordinate

dyddodion - darnau neu elfennau sy’n cael eu cludo ac yna eu gadael mewn man arall ym myd natur - deposits

gwead - sut mae rhywbeth yn teimlo - texture

creiriau - gwrthrychau sy’n dod o oes arall - relics

troellau - patrymau ar ffurf cylch - spirals

ymgorffori - pan fydd ffurf weledol yn cael ei rhoi i syniad neu deimlad – to embody

gweddillion - yr hyn sy’n cael ei adael ar ôl, darnau bach o rywbeth oedd yn fwy – remnants

cynhyrchion niweidiol - deunydd neu wrthrychau sy’n achosi niwed, weithiau deunydd peryglus neu wenwynig – harmful / damaging products

hen lofa - hen + glofa – lle roedd glo yn arfer cael ei gloddio – old coal mine