English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Catrin Williams

Pwy wyt ti?

Catrin Williams ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu ar fferm ger y Bala. Ond ers 1996, dw i'n byw ger y môr yn ardal Pwllheli.

Disgrifia dy addysg

Astudiais i yn y Coleg Celf yng Nghaerdydd.

Rwyt ti wedi bod ar raglenni teledu. Pa raglenni?

Dw i wedi bod ar rhaglen deledu Byd o Liw. Hefyd, dw i wedi gwneud rhaglen deledu o'r enw Catrin Williams - Portread. Yn 2020, roeddwn i ar y rhaglen Cymru ar Gynfas. Dros y 30 blynedd diwethaf, mae fy ngwaith wedi bod ar sawl sianel deledu - S4C, BBC1 Cymru, ITV Cymru, BBC2, a sianel T4 yn Iwerddon.

Beth ydy dy ysbrydoliaeth (inspiration) di?

Beth yw eich cefndir?

Dechreuais i arddangos gweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au, ac ers hynny rwyf wedi gwerthu gwaith a theithio ar draws y byd. Cefais i fy magu ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themâu cryfaf yn fy ngwaith; mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi’u gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Dros amser, datblygodd y themâu cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o'r symbolau twristaidd o Gymru, fel y llieiniau sychu llestri ystrydebol. Mae atsain o fy nhirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn fy narnau diweddaraf, ond arfordir a thraethau Penrhyn Llŷn yw'r ysbrydoliaeth erbyn hyn.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Mae delweddau o fy nghefndir a fy magwraeth ym Meirionnydd yn amlwg yn fy ngwaith - y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y gerddoriaeth a’r diwylliant Cymraeg; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd.

Ers symud at y môr i Bwllheli, mae fy ngwaith yn dangos delweddau’r llieiniau sychu llestri twristaidd o Gymru, yn ogystal â'r diwydiannau morwrol lleol. Mae’r cychod a’u hwyliau, y porthladdoedd a’r tirlun sy’n ddieithr i’r ferch o fferm fynydd Llwyniolyn, yn elfennau pwysig yn fy ngwaith diweddar.

Rwyf wedi arddangos fy ngwaith (yn helaeth) ar hyd a lled Cymru, mewn orielau yn yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Mae fy nghyfres Ffrogiau Cerdd Dant wedi eu gweld mewn arddangosfa lwyddiannus iawn, Prints of Wales, a gafodd ei chynnal yn y Belger Arts Center, Kansas City, U.D.A. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae galw mawr wedi bod am fy ngwaith gan gasglwyr preifat ac mae’r ymateb i’r darnau newydd wedi bod yn galonogol iawn. Mae fy ngwaith yn barod mewn casgliadau preifat ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Japan, Canada, America a China, yn ogystal ag yng nghasgliadau cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Gymreig o Gelfyddyd Fodern Y Tabernacl, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion Aberystwyth ac Oriel Casnewydd Gwent.

Rwyf wedi ymddangos ddwywaith ar y rhaglen deledu Byd o Liw. Y tro cyntaf i fi ymddangos ar y rhaglen, roeddwn i'n ymateb yn gelfyddydol i bosteri Harry Riley o Aberystwyth. Yn 2002, cynhyrchodd Ffilmiau’r Bont raglen Catrin Williams - Portread, ac fe roddodd y rhaglen gyfle i fi edrych yn ôl o’r newydd ar fy nghynefin a fy nylanwadau cynnar. Yn 2020, fi oedd un o’r artistiaid fuodd yn creu portread ar raglen, Cymry ar Gynfas ar S4C. Dros y tri deg mlynedd diwethaf, mae nifer o eitemau am fy ngwaith wedi eu darlledu ar sawl sianel deledu - S4C, BBC1 Cymru, ITV Cymru, BBC2 drwy Brydain a sianel TG4 yn yr Iwerddon.

Ers i mi raddio o’r Coleg Celf yn Nghaerdydd dros dri deg mlynedd yn ôl rwyf yn dal i roi fy egni i baentio a darlunio fy myd. Rwy’n datblygu cyfresi o waith unigryw, yn eu harddangos yn gyson ac yn credu’n gryf mewn annog a chefnogi artistiaid eraill o ddosbarthiadau meithrin ymlaen ac o bob cornel o’r gymdeithas. Yn aml iawn rwyf yn dod ar draws myfyrwyr colegau celf sy’n astudio fy ngwaith - myfyrwyr sy’n awyddus i drafod eu crefft ac yn awyddus i ennyn fy mrwdfrydedd.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith?

Rwyf fel arfer yn gweithio ar gyfer arddangosfa benodol. Ym mis Ionawr 2021, gwnes i arddangosfa unigol yn Oriel Plas Glyn y Weddw, a’r themâu oedd cerddoriaeth Gwenno Saunders a Lleuwen Steffan.

Rwyf yn dechrau drwy ddarlunio lluniau yn fy llyfr braslunio sy'n cyd-fynd â'r thema, a hefyd yn gwrando ar y gerddoriaeth, sydd yn ysbrydoli delweddau.

Wedyn rwyf yn ail-greu’r ddelwedd wrth weithio mewn dull monoprint ar ddefnydd, wedyn yn ychwanegu lliw gydag inc a phaent ac yna’n gwnïo darnau bach o ddeunyddiau lliwgar fel clytwaith, gan o bosib ychwanegu pasteli, cyn fframio’r gwaith mewn ffrâm wen â gwydr.

Rwyf hefyd wedi creu clogynnau i’r ddwy gantores eu gwisgo wrth berfformio yn yr arddangosfa - un goch i Gwenno gyda delweddau o ddreigiau a ffigyrau chwedlonol ac un las i Lleuwen sy’n darlunio ffigyrau Bendigeidfran.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Rwyf yn hoffi defnyddio defnyddiau cymysg - o bapur, i ddefnydd leinin cyrtens a chynfasau, pren a byrddau. Rwyf yn creu delweddau wrth brintio, yn defnyddio inciau lliwgar, gwnïo defnyddiau ac yn defnyddio paent olew a phasteli.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Mae’r gwaith yn datblygu drwy’r amser. Mae llawer o’r gwaith personol yn deillio o brofiadau personol, digwyddiadau teuluol neu olygfa hardd.

Mae gweithio ar gomisiynau yn newid y gwaith hefyd. Yn 2021 cefais gyfle i greu portread o Beti George ar raglen S4C, Cymry ar Gynfas. Yn dilyn y profiad hwn, rwyf yn bwriadu cyflwyno mwy o bortreadau i fy ngwaith personol.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Anfonodd y llun i’w fframio.
Gwniodd hi ddefnydd i’r darn
Defnyddiodd hi lyfr braslunio i greu braslun.
Argraffodd hi mewn du i greu monoprint.
Paentiodd hi gyda lliwiau llachar.

Gweithgaredd 2

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

dresel - dodrefn traddodiadol wedi ei wneud o bren sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos crochenwaith a llestri - dresser

lliain (llieninau) sychu llestri - tea towel(s)

ystrydebol - stereotypical

delwedd(au) - llun(iau) - images

morwrol - bywyd yn ymwneud â’r môr - maritime

tirlun - y tir a’r olygfa ohono, neu'r gelfyddyd o ddarlunio hyn – landscape

ar hyd a lled Cymru - dros Gymru i gyd - throughout Wales

casglwyr - pobl sy’n prynu a chasglu gweithiau celf - collectors

cynefin - man lle mae person wedi ei fagu - habitat

braslunio - darlunio llun bras - to sketch

clytwaith - nifer o ddarnau bach o ddefnydd wedi eu gwnïo gyda’i gilydd - patchwork

ffigyrau chwedlonol - cymeriadau mewn chwedlau - mythical figures

comisiynau - taliadau i grefftwr am greu darnau o waith penodol - commission(s)