English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Tomos Sparnon

Pwy wyt ti?

Tomos Sparnon ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yng Nghastell-nedd

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Gymraeg Castell-nedd ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Disgrifia dy addysg.

Ar ôl gadael yr ysgol, astudiais i (I studied) Celf Gain (Fine Art) yng Ngholeg Celf Abertawe.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hoffi defnyddio paent olew. Dw i hefyd yn hoffi defnyddio clai.

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Cyn dechrau, mae gyda fi syniad o beth dw i eisiau ddweud. Ond pan dw i’n creu (create), mae’r gwaith yn datblygu (develops). Yn aml, dydy’r darn terfynol (final piece) ddim fel roeddwn i’n disgwyl (expect).

Beth yw eich cefndir?

Rwy’n dod o Gastell-nedd. Es i Ysgol Gymraeg Castell-nedd ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, cyn astudio gradd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe a graddio â gradd dosbarth cyntaf yn 2018. O Fedi 2018 i Orffennaf 2019, gweithiais fel artist preswyl yn y Coleg Celf. Ers hynny, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar fy ngwaith celf a chynnal gweithdai celf.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Mae amrywiaeth o bethau yn ysbrydoli fy ngwaith celf ond fwy na thebyg mai gwaith yr Hen Feistri megis Rembrandt a Diego Velázquez, a gwaith artistiaid mwy modern fel Willem de Kooning a Frank Auerbach sy’n fy ysbrydoli fwyaf. Mae gwaith yr artistiaid hyn, yn eu ffyrdd unigryw eu hunain, yn cyfleu pethau dwfn am y profiad o fod yn ddynol.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Cyn dechrau creu fy narn o waith celf, mae gen i ryw syniad o’r hyn rwyf am ei fynegi ar gynfas neu gyda chlai ond yn ystod y broses o greu, mae’r gwaith yn datblygu ac yn aml dyw’r darn terfynol ddim fel roeddwn wedi disgwyl. Weithiau, gall hyn fod yn beth da; weithiau, gall fod yn broblem! Fel arfer, rwy’n defnyddio ffotograffau fel ffynhonnell ar gyfer fy mhaentiadau. Mae’r amser mae’n ei gymryd i greu darn yn amrywio – weithiau, daw darn yn weddol rwydd; ar adegau eraill, mae darn yn galw am ragor o amser a rhagor o ymdrech meddwl.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Paent olew a chlai yw fy hoff gyfryngau.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Roedd fy mhortreadau cynnar ar ddull realistig, yn ceisio dal cymeriad person ond trwy arbrofi dros y blynyddoedd diwethaf, credaf fod fy ngwaith wedi troi’n fwy mynegiannol ac efallai’n cyfleu pethau cuddiedig dynoliaeth, fel emosiynau, teimladau a phrofiadau.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

“Fy nod yw dal gwrthdrawiad rhwng y gweladwy a’r anweladwy, rhwng realiti a’r hyn nad yw’n real.

Mae fy ngwaith wedi newid dros y blynyddoedd: portreadau gweddol llythrennol oedd fy ngweithiau cynnar, ond erbyn hyn, er gall y rhain cynnwys wyneb, fel arfer fydd y rhain ddim yn amlwg.

Mae’r gyfres o baentiaidau a grëais yn 2015 yn ymateb i fomio ysgol yn Gaza, wedi bod yn fy meddwl yn ddiweddar... yn y paentiadau hyn, roeddwn am ddal amrywiol fynegiannau pobl gan gynnwys ofn, bregusrwydd, hyder a chadernid.”

Edrychwch ar y geiriau. Oes patrwm? Mae llawer o ansoddeiriau yn gorffen gyda’r llythrennau –wy, ac -ol.

Gweithgaredd 2

Sialc
Pensil
Glud
Clai
Pastelau olew
Paent dyfrlliw
Inc
Papur
Paent olew
Siarcol
Cortyn
Gwifren

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

artist preswyl - artist sy’n gweithio mewn sefydliad am gyfnod dros dro, gan roi cyfle iddo weithio ar brosiect neu ddatblygu syniadau newydd mewn lle gwahanol – artist in residence

ffynhonnell - man cychwyn y darn o waith - source

portread - paentiad, llun, ffotograff, neu engrafiad o berson, yn enwedig un yn darlunio wyneb neu ben ac ysgwyddau yn unig - portrait

mynegiannol - yn cyfleu teimladau, meddyliau ac emosiynau - expressive

cuddiedig - rhywbeth sydd wedi cael ei guddio, neu does dim modd ei weld - hidden