English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Iwan Bala

Pwy wyt ti?

Iwan Bala ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Sarnau, y Bala, Gogledd Cymru.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Uwchradd y Berwyn.

Disgrifia dy addysg.

Dechreuais i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn newid i astudio Celf Gain (Fine Art) yng Ngholeg Celf Caerdydd. Yn 1993 ces i MA mewn Celf Gain o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hoffi defnyddio siarcol (charcoal), pastel ac inc. Dw i hefyd yn hoffi defnyddio pethau fel bagiau te Roobios a tippex!

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i byth yn paratoi brasluniau (sketches) o flaen llaw (beforehand). Mae popeth yn y llun yn digwydd (happens) ar y pryd (at that moment).

Oes cyngor gyda ti i artist newydd?

Mae’n cymryd amser (takes time) i artist ffeindio ‘iaith’ bersonol.

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy ngeni yn Sarnau, ger y Bala yng ngogledd Cymru, ond rwyf wedi byw am flynyddoedd yng Nghaerdydd, gyda chyfnodau yn Zimbabwe fel artist preswyl yn yr Oriel Genedlaethol yn 1991 a 1994. Bellach, rydw i wedi ymgartrefu yng Nghefneithin, Cwm Gwendraeth. Rwy’n adnabyddus fel artist, awdur a darlithydd. Dechreuais ar drywydd gwahanol iawn yn y coleg yn Aberystwyth gan gofrestru i wneud gradd daearyddiaeth ond buan iawn fe wnes i ddychwelyd at fy nghariad cyntaf sef celf, a chwblhau gradd MA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1993. Ers 1990 rwyf wedi cael arddangosfeydd unigol, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp yng Nghymru a thramor, ac mae fy ngwaith i’w weld mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat. Fe arddangoswyd fy ngwaith mewn pedair dinas yn Tsieina yn 2009. Rwyf wedi cyhoeddi llyfrau a thraethodau ar y pwnc celf gyfoes yng Nghymru, wedi darlithio yn aml ar y pwnc, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni celf i S4C a chael cyfweliadau ar y cyfryngau. Trafodir fy ngwaith mewn nifer fawr o gyhoeddiadau ar gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Rwy’n diddori yn bennaf mewn hunaniaeth ddiwylliannol - y diffiniad o 'berthyn' i le arbennig - tra hefyd yn parhau i fod yn ddinesydd o'r byd mawr. Mae fy hunaniaeth bersonol, fy ngwreiddiau a'm cefndir yn arwyddocaol yn fy ngwaith. Rwy'n gweld y gwaith fel llun neu fap o fy nheimladau a'm hunaniaeth a diwylliant. Rydw i wedi cael fy nylanwadu gan nifer o artistiaid dros y blynyddoedd; Augustus John, David Jones, Chagall, Tapies, ond yn bennaf mae atynfa gref tuag at waith artistiaid llai adnabyddus o America Ladin ac Affrica.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Byddwn i'n disgrifio fy ngwaith fel darluniau yn hytrach na chasgliad o baentiadau, hyd yn oed pan fydda i'n defnyddio paent i wneud marciau. Mae fy ngwaith yn defnyddio symbolau i ddangos elfennau gwrthgyferbyniol mewn bywyd. Yn y bôn, mae fy ngwaith yn ymwneud â deuoliaeth. Fel arfer rwy'n gadael i’r marciau ar y papur fy arwain, ac mae'r thema'n datblygu wrth i'r llun ei hun ddatblygu. Mae gwaith y llaw a’r llygaid, drwy hap a damwain, yn gweithio ar y cyd gyda’r syniadau sydd yn fy mhen. Dydw i byth yn paratoi brasluniau o flaen llaw. Mae popeth sydd yn y darlun yn digwydd ar y pryd, yn y funud. I mi, mae hyn yn cadw’r llun yn fyw.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Yn y gorffennol roeddwn yn defnyddio olew ar gynfas, ond ers rhyw ddegawd rydw i wedi canolbwyntio ar gyfryngau cymysg ar bapur Khadi ‘cotton duck’ o’r India. Papur trwchus yw hwn sydd wedi ei wneud â llaw. Yn wahanol i bapur arferol nid o goed y mae'n cael ei greu ond o sbarion diwydiant cotwm yn yr India. Byddaf yn defnyddio golosg, pastel, inc a phethau llai proffesiynol fel bagiau te Roobios a tippex weithiau! Rwy’n hoffi cyfleu’r syniad fod y gwaith yn hynafol, fel dogfennau o’r gorffennol.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Mae hi'n cymryd amser i artist i ddod o hyd i ‘iaith’ bersonol. Tra oeddwn i yn y Coleg Celf, gwnes i ddechrau drwy ganolbwyntio ar gerflunio dan ddylanwad gwaith y Minimalwyr (Minimalists), ond roedd yn anodd gweithio mewn ystafell wely mewn tŷ roeddwn yn ei rannu gydag eraill, felly dechreuais ddarlunio. Chwedloniaeth Cymru oedd fy mhrif bwnc ar y pryd. Wrth i fy ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth ehangu, dechreuodd y gwaith hefyd fynd yn fwy gwleidyddol. Llwyddais i gael stiwdio mewn hen adeilad gwag yng Nghaerdydd a datblygodd fy ngwaith. Enillais Fedal Aur yr Eisteddfod yn 1997 gyda darnau mawr o ran maint. Wrth gwrs, roedd yn amhosib gwneud bywoliaeth gyda lluniau mawr fel hyn, felly erbyn hyn rwy'n creu darnau llawer llai.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Cefais fy ngeni yn Sarnau, ger y Bala yng ngogledd Cymru ond rwyf wedi byw am flynyddoedd yng Nghaerdydd a chyfnod yn Zimbabwe fel artist preswyl yn yr Oriel Genedlaethol yn 1991 a 1994. Bellach rwyf wedi ymgartrefu yng Nghefneithin, Cwm Gwendraeth. Rwy’n adnabyddus fel artist, awdur a darlithydd. Dechreuais ar drywydd gwahanol iawn yn y Coleg yn Aberystwyth gan gofrestru i wneud gradd daearyddiaeth ond buan iawn fe wnes i ddychwelyd at fy nghariad cyntaf sef celf, a chwblhau gradd MA mewn celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1993. Ers 1990 rwyf wedi cael arddangosfeydd unigol, ac wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp yng Nghymru a thramor, ac mae fy ngwaith i’w weld mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat. Dangoswyd fy ngwaith mewn pedair dinas yn Tsieina yn 2009. Rwyf wedi cyhoeddi llyfrau a thraethodau ar gelf gyfoes yng Nghymru, wedi darlithio yn aml ar y pwnc, yn ogystal â chyflwyno rhaglenni celf i S4C a chael cyfweliadau ar y cyfryngau. Trafodir fy ngwaith mewn nifer helaeth o gyhoeddiadau ar gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.

Gweithgaredd 2

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

artist preswyl - artist sy’n gweithio mewn sefydliad am gyfnod dros dro, gan roi cyfle iddo weithio ar brosiect neu ddatblygu syniadau newydd mewn lle gwahanol – artist in residence

ymgartrefu - gwneud cartref iddo’i hun - to settle

ar drywydd - on a track/path

celfyddyd gain - fine art

celf gyfoes - contemporary art

diddori - awydd i wybod a deall mwy am rywbeth - to interest

hunaniaeth - pwy ydyn ni, sut rydyn ni'n adnabod ein hunain – identity

dinesydd - rhywun sy’n perthyn i dref/dinas/gwlad - citizen

gwreiddiau - teimlad o fod yn perthyn i le neu ardal arbennig am i chi gael eich geni a’ch magu yno - roots

arwyddocaol - rhywbeth sy'n werth sylwi arno, rhywbeth pwysig - significant

elfennau gwrthgyferbyniol - pethau sy'n wahanol i'w gilydd - contrasting elements

deuoliaeth - dwy ffordd o edrych ar bethau - dualism

drwy hap a damwain (idiom) - pethau sy'n digwydd heb i ni eu cynllunio - by chance

brasluniau - sketches

degawd - cyfnod o ddeng mlynedd - decade

golosg - charcoal

hynafol - hen iawn - ancient

gwneud bywoliaeth - y ffordd mae rhywun yn ennill arian - to make a living