English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Tim Davies

Pwy wyt ti?

Tim Davies ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Sir Benfro.

Disgrifia dy addysg?

Es i i ysgolion Celf yn Llundain, Norwich a Chaergaint (Caergaint - Canterbury)

Pa fath o artist wyt ti?

Artist gweledol (visual) ydw i.

Pa ddefnyddiau rwyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hapus i ddefnyddio unrhyw beth i ddweud y gwir (to tell the truth).

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n dechrau gydag ymateb (response) i rywbeth.

Mae llawer o arbrofi (experimenting) a methu (failure) cyn cyrraedd y gwaith terfynol (final).

Beth yw eich cefndir?

Rydw i'n dod o Sir Benfro yn wreiddiol ac es i i ysgolion celf yn Llundain, Norwich a Chaergaint. Roedd fy mam yn gweithio fel cogydd mewn cartref nyrsio ac roedd fy nhad yn fecanig ceir.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i'n mwynhau beicio o fy nghartref yn Johnston i Oriel Graham Sutherland yn Picton. Roedd tirweddau Sutherland yn ysbrydoliaeth gynnar. Mae ychydig o’r gwaith o’r oriel hon bellach wedi’i drosglwyddo i Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Yn Ysgol Gelf Norwich, Ana Maria Pacheco oedd yn gyfrifol am Gelf Gain. Arlunydd ysbrydoledig, gwneuthurydd printiau a cherflunydd oedd Ana Maria Pacheco, a dysgodd hi ymdeimlad o ddisgyblaeth i’w holl fyfyrwyr a chael y gorau ohonyn nhw, drwy eu hannog i weithio'n galed a dilyn eu gweledigaeth eu hunain.

Roedd fy ngradd Meistr yng Nghaergaint mewn Celf a Phensaernïaeth. Helpodd hyn fi i ganolbwyntio ar y syniad o ymarfer celf ymatebol i safle a chelf safle-benodol.

Ymhlith y dylanwadau mawr eraill mae artistiaid Dadeni’r Eidal, yn enwedig Giotto, Piero della Francesca, Bellini, Caravaggio a Tintoretto; artistiaid o'r 19eg ganrif fel Cezanne a Van Gogh; artistiaid yr 20fed ganrif gan gynnwys Picasso, Rothko, Rauschenberg, Abromovic a Mendieta; ac artistiaid mwy diweddar fel Salcedo, Whiteread, Gates a Bruguera.

Mae cerddoriaeth yn ysbrydoliaeth enfawr i fi. Max Richter, Steve Reich, Philip Glass, Benjamin Britten a Thomas Tallis yw rhai o fy hoff gyfansoddwyr. Rydw i hefyd wrth fy modd gyda gwaith David Bowie, PJ Harvey, The Dead Weather, Radiohead a Nick Cave.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Rydw i bob amser yn dechrau drwy ymateb i rywbeth, boed hynny’n wleidyddol, yn ddiwylliannol, yn ymwneud ag amser neu sefyllfa. I ddechrau, rydw i'n gwneud nodiadau ysgrifenedig ac yna'n meddwl sut galla' i droi fy syniadau yn ffurf neu'n berfformiad. Mae'n golygu llawer o arbrofi a chamgymeriadau, gyda llawer o fethiannau ar hyd y ffordd, cyn cyrraedd fersiwn derfynol rydw i'n weddol hapus â hi. Dydy hyn ddim yn golygu bod y gwaith yn ddatganiad diffiniedig bob tro, ond mae’n bwynt lle dw i eisiau creu cofnod. Yn aml, rydw i'n gwneud sawl fersiwn neu gyfres o ddarnau cysylltiedig.

Os ydw i'n defnyddio deunyddiau, rydw i'n ceisio dewis beth bynnag sydd yn fwyaf priodol ar gyfer y syniad a chyrraedd canlyniad mor syml a chlir â phosibl. Rhan o'r broses hon yw arbrofi a chwarae gyda gwahanol ddefnyddiau. Os yw'n waith perfformiadol, unwaith eto mae treialu ac adolygu cyson yn allweddol. Fel rheol, mae darnau perfformiadol yn cael eu cofnodi trwy luniau neu fideo.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych chi’n mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Does dim ffefryn gen i - cyhyd â'i fod yn cynnig rhywbeth i'r cysyniad, rwy'n fodlon defnyddio unrhyw beth mewn gwirionedd.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Pan oeddwn i’n fyfyriwr, roeddwn i’n paentio a gwneud printiau gan fwyaf, ond ym mlwyddyn olaf fy ngradd ac yn fy MA dechreuais i ymgorffori deunyddiau sydd ar gael ar hap, fel tecstilau, deunyddiau adeiladu a phren sydd wedi'i adfer.

Ar ôl i fi orffen astudio, parheais i gyda'r dull cyfryngau cymysg yma ac yn y diwedd datblygais i waith gan ddefnyddio ffotograffiaeth a fideo. Roedd ymwybyddiaeth gynyddol ddwys o safle a thestun yn ysgogiad i lawer o fy ngwaith.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

ffrenetig
safle-benodol
ymateb i safle
gwrthbwynt
dau ddimensiwn
gorlif-awdio
Pan ddefnyddir gwrthgyferbyniad i bwysleisio neu i ategu elfen arall at y gwaith celf.
Pan fydd yr arlunydd yn ymateb i safle’r gwaith celf wrth greu.
Pan fydd y cyfansoddiad yn meddu ar ddimensiynau hyd a lled ond heb ddimensiwn o ddyfnder.
Pan fydd rhywbeth yn symud yn gyflym ac yn egnïol mewn ffordd eithaf gwyllt a heb ei reoli.
Pan fydd sain awdio’n llifo o un safle i’r nesaf.
Pan fydd darn o gelf yn cael ei greu mewn safle a/neu yn ymateb i’r safle.

Gweithgaredd 2

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

tirweddau - y tir a’r olygfa ohono, neu'r gelfyddyd o ddarlunio hyn - landscapes

gwneuthurydd printiau - person sy’n creu printiau - print maker

cerflunydd - person sy’n creu cerfluniau - sculptor

pensaernïaeth - dylunio, cynllunio a chreu strwythur - architecture

celf ymatebol i safle - celf sy’n ymateb yn uniongyrchol i'r amgylchedd lle mae'r artist wedi creu'r gwaith - site responsive art

safle-benodol - darn o gelf sydd wedi ei lunio ar gyfer lleoliad penodol ac sydd â pherthynas â'r lle hwnnw - site-specific