English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Mary Lloyd Jones

Pwy wyt ti?

Mary Lloyd Joned ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yng Ngheredigion.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n gweithio mewn dyfrliw (watercolour) ar bapur. Dw i’n ychwanegu (add) creon a gwêr (candlewax) neu dywod (tywod = sand) neu grit i greu gwead (texture) diddorol. Ar gynfas, dw i’n hoffi defnyddio paent olew.

Beth sy’n bwysig yn dy waith?

Mae’r byd naturiol yn bwysig i fi.

Hefyd, dw i eisiau dangos fy mod i'n dod o Gymru. Dw i eisiau dangos bod perthynas arbennig (special relationship) gyda fi gyda hanes a chwedlau (legends) a llenyddiaeth (literature) Cymru.

Beth yw eich cefndir?

Cymraes ydw i, yn enedigol o gefn gwlad Ceredigion i deulu diwylliedig gyda llawer o lyfrau. Ces i fy magu mewn tyddyn oedd yn cadw tair buwch, un mochyn a geifr. Does dim traddodiad o ferched yn cael gyrfa tu allan i'r tŷ yn fy nheulu. Fi oedd y person cyntaf yn y teulu i fynd i goleg celf. Rydw i’n un o'r merched cyntaf o'r cefndir hwn i gael gyrfa lwyddiannus fel artist gweledol.

Rydw i wedi arddangos yn helaeth ers canol y chwedegau yng Nghymru, gweddill Prydain ac yn rhyngwladol. Yn 2008 cefais fy anrhydeddu gan Brifysgol Cymru gyda gradd Doethur er Anrhydedd. Roeddwn i’n un o dri artist a ddewiswyd i arddangos gwaith o Gymru yn Tsieina yn 2009. Y ddau artist arall oedd Christine Mills ac Iwan Bala. Rydw i hefyd wedi cyfrannu at Ŵyl y Smithsonian yn Washington DC yn 2009. Mae fy ngwaith yn adlewyrchu fy ymateb i lefydd arbennig, i hanes, i ddiwylliant ac i hunaniaeth. Mae’n braf iawn gweld bod llawer o Gymry’n casglu fy ngwaith ac rydw i'n mwynhau cael ymateb cadarnhaol iddo.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch chi fwyaf?

Mae diddordeb mawr gen i mewn datblygiadau byd Celf ar ddechrau'r ugeinfed ganrif: artisitiad fel Henry Mattisse, Kandinsky, a Paul Klee. Rydw i’n hoff iawn o waith Roger Cecil o Aberteleri a fu farw yn 2015.

Sylfaen y gwaith yw perthynas gyda’r byd naturiol, e.e. creithiau mwyngloddio, corsydd, cysgodion a mannau gwyllt Ceredigion. Mae hanes dros y canrifoedd a chwedlau sy’n gysylltiedig â mannau arbennig hefyd yn bwysig i fi.

Yn ogystal, rydw i wedi cael fy nylanwadu gan yr athronydd J. R. Jones a wnaeth gysylltiad cryf rhwng y tir a'r iaith sy'n gysylltiedig ag ef.

Rydw i’n artist sy’n mynd allan i'r wlad i fannau arbennig, ac yn gwneud nodiadau mewn pensil yn gyflym, ar bapur maint 8”x10’’. Rydw i’n gweithio wedyn yn y stiwdio ar raddfa fwy o faint os bydd y syniad yn ddiddorol. Byddaf yn gweithio ar ddarnau o waith am wythnosau, weithiau misoedd. Byddaf weithiau yn ychwanegu neu newid rhywbeth mewn blynyddoedd.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych chi’n mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Rydw i’n gweithio mewn dyfrliw ar bapur. Byddaf yn ychwanegu creon a gwêr neu dywod neu grit i greu gwead diddorol. Ar gynfas, y paent gorau i fi yw paent olew. Yn y 70au a’r 80au roeddwn i hefyd yn defnyddio lliw ar gotwm i greu cysylltiad gyda gwaith traddodiadol merched: clytwaith a matiau rhacs.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Datblygu iaith haenog bersonol mewn ymateb i leoliadau penodol yw sylfaen fy ngwaith. Mae fy ymwybyddiaeth o berthyn i genedl leiafrifol wedi cryfhau dros fwy na hanner canrif ac wedi arwain at lawer o'r mynegiadau sy'n bresennol yn fy ngwaith diweddar. Rydw i am ddangos mai Cymraes ydw i â pherthynas arbennig gyda hanes a llenyddiaeth Cymru dros y canrifoedd. Rydw i’n defnyddio cerfiadau Ogam; marciau cynnar o oes y cerrig; yr Wyddor Farddol (Coelbren y Beirdd) yn ôl Iolo Morgannwg; llythrennau a llawysgrifen wedi eu ffurfio fel yng ngeiriau hoff feirdd Cymru. At hyn, rydw i bellach yn ychwanegu persbectif newydd yn seiliedig ar fapiau a delweddau mwy diweddar a dynnwyd gan ddronau. Defnyddiwyd Trawsfynydd fel tir tanio i'r fyddin o 1903, gan adael marciau geometrig ar y dirwedd. Rydw i’n cyferbynnu’r marciau hyn â geiriau Hedd Wyn a ffurfiannau daearegol.

Rydw i wedi dod yn ymwybodol o waith yr Athro J. R. Jones a’i lyfr arbennig Prydeindod. Rydw i wedi benthyca rhai o’i ymadroddion, megis “cynddaredd gwahanrwydd” a “cydymdreiddiad” i bwysleisio fy Nghymreictod yn y cyfansoddiadau. Mae datblygu iaith bersonol mewn gwrthgyferbyniadau lliw wedi bod yn ganolog i mi ers mwy na hanner canrif.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Gweithgaredd 2

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

diwylliedig - mae person diwylliedig yn gwybod llawer am gelf, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ac ati - cultured

dyfrliw - paent wedi ei gymysgu â dŵr - watercolour

gwêr - deunydd gludiog - wax

gwead - sut mae rhywbeth yn teimlo - texture

clytwaith - darnau bach o bethau gwahanol wedi eu cyflwyno gyda’i gilydd - patchwork

llenyddiaeth - deunydd ysgrifenedig, e.e. barddoniaeth, straeon a nofelau - literature

Ogam - hen wyddor Geltaidd sy'n dyddio nôl i'r bedwaredd ganrif

Coelbren y Beirdd - gwyddor a gafodd ei chreu gan Iolo Morganwg yn y ddeunawfed ganrif. Roedd e’n honni mai hen wyddor y beirdd oedd hi.

cynddaredd gwahanrwydd - y dicter rydyn ni'n ei deimlo wrth gael ein gwahanu oddi wrth rywbeth - the fury of separation

cydymdreiddiad - y syniad bod rhywbeth yn dod yn rhan ohonon ni - interpenetration

cyfansoddiadau - darnau sydd wedi cael eu creu, fel darnau o gelf - compositions