English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Lowri Davies

Pwy wyt ti?

Lowri Davies ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Aberystwyth.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Penweddig.

Disgrifia dy addysg.

Ar ôl gadael yr ysgol, astudiais i (I studied) Gelf (Celf = Art) yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, Coleg Celf Caerdydd a Phrifysgol Staffordshire.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Artist Cerameg ydw i. Dw i'n defnyddio clai gwyn i wneud fy ngwaith - ‘bone china’ neu borslen (porslen - porcelain). Mae’r darluniau (illustrations) ar y gwaith yn bwysig. Dw i'n darlunio gyda paent dyfrliw (watercolour) ac inc.

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dw i’n defnyddio technegau diwydiannol (industrial techniques) ar raddfa fach (small scale).

Dw i'n gwneud mowldiau (moulds) o blastr (plastr = plaster).

Mae’r darnau (pieces) yn cael eu tanio rhwng 4-5 gwaith (times).

Wedyn, dw i’n ychwanegu (add) gwydredd (glaze) o wahanol liwiau.

Dw i hefyd yn ychwanegu’r darluniau (illustrations). Dw i'n gorffen y gwaith gyda lystarau (lustres) neu blatinwm (platinwm = platinum).

Beth yw eich cefndir?

Dw i’n artist Cerameg sy wedi astudio cwrs Sylfaen yn y Coleg Celf yng Nghaerfyrddin, BA mewn Cerameg yn Ysgol Gelf Caerdydd ac MA mewn Dylunio Cerameg ym Mhrifysgol Swydd Stafford.

Fe ges i fy ngeni yn 1978 a fy magu yn Aberystwyth. Dw i bellach yn gweithio ar fy liwt fy hun yn Stiwdio FWCS (Stiwdio Glai Fireworks) yng Nglanyrafon, Caerdydd.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Fe ges i feiros darlunio a set dda o baent dyfrliw pan oeddwn i tua 11 mlwydd oed gan fy rhieni. Dyna sut dw i’n parhau i ddarlunio hyd heddiw. Roedd fy rhieni i hefyd yn mynd â ni i orielau i weld celf felly roedd mynychu orielau yn brofiad eithaf cyfarwydd i mi.

Fe ges i athro da yn Ysgol Penweddig o’r enw Mr Glyn Thomas a oedd yn rhoi pwyslais ar ddarlunio. Mae hyn yn sicr wedi rhoi sylfaen dda i mi.

O ran artistiaid dw i’n eu hedmygu, dw i’n mwynhau gwaith yr artist Eric Ravilious (artist rhyfel oedd hefyd yn creu murluniau ac yn gwneud gwaith darlunio i Wedgwood) a Jaime Hayon (dylunydd o Sbaen).

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Dw i’n artist Cerameg, ond mae’r arwyneb, sef y gwaith darlunio sy’n addurno’r gwaith yn chwarae rôl bwysig yn y darnau gorffenedig. Mae mwyafrif y gwaith darlunio yn cael ei greu gydag inc a phaent dyfrlliw, ond ar adegau bydda i'n trin a thrafod y darluniau yn ddigidol neu’n defnyddio cyfrwng cymysg.

Dw i’n tueddu i ddefnyddio clai gwyn wedi’i danio’n uchel i greu fy ngwaith - naill ai ‘bone china’ neu borslen. Dw i’n defnyddio technegau diwydiannol ar raddfa fach, sef castio â slip sy’n golygu bod rhaid cychwyn drwy greu mowldiau o blastr cyn castio gyda’r clai ei hun. Mae’r darnau yn cael eu tanio rhwng 4-5 o weithiau sy’n debyg i'r broses greu yn y maes diwydiannol. Dw i’n ychwanegu gwydredd o wahanol liwiau; y darluniau wedi eu trosglwyddo i bapur transffer ac yn gorffen y gwaith gyda lystar aur neu blatinwm. Roedd fy ngradd meistr i yn Swydd Stafford yn ddylanwadol iawn ar y ffordd dw i’n creu fy ngwaith. Roedd y penderfyniad i fynd yno yn un bwriadol gan fy mod i am geisio efelychu’r llestri oedd yn addurno cartref fy Nain.

Dw i hefyd wedi arbrofi dros y blynyddoedd gyda golau drwy greu canwyllbrennau a phaneli lithoffan (gweler y ffilm); papur wal; darlunio ar gyfer llyfrau, creu gosodwaith ar breswyliad ym Mecsico, addurno Bocs BT (gweler y llun) a chreu nifer o dlysau ar gyfer sefydliadau gwahanol.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Heb os, darlunio a phaentio gyda phaent dyfrlliw. Dw i hefyd yn mwynhau bod gweddill y gwaith yn eitha technegol, gan fod yna batrwm i’r math yna o weithio.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Dw i’n gweld fy ngwaith i mewn tri chyfnod gwahanol ac ar y funud dw i’n rhagweld fy mod i’n dechrau ar fy mhedwerydd cyfnod.

Y deunydd clai, y paled lliw a themâu’r darluniau sydd wedi newid yn ystod y datblygiadau hyn. Dechreuais drwy weithio gyda chlai porslen yn dogfennu cartref fy Nain gyda phaled mwy cochlyd a thywyll; yna symud ymlaen i ddefnyddio clai pridd gwyn gan ymateb yn fwy i gasgliadau mewn amgueddfeydd neu’r byd o’m hamgylch. Dechreuodd y trydydd cyfnod yn ystod fy nghwrs MA lle newidiodd y clai, themâu’r gwaith, yr addurn a’r paled lliw. Roedd y casgliadau yma’n llawer ysgafnach gan fy mod i’n defnyddio lliwiau ysgafnach fel pinc, melyn, oren a glas golau. Roeddwn i’n teithio yn ôl ac ymlaen o Aberystwyth i Stoke-on-Trent ar y pryd felly dw i’n meddwl mai’r newid yn y golau rhwng y ddau le effeithiodd ar hyn.

Dw i ar fin cychwyn prosiect arbrofol i greu gweithiau unigryw (one off) yn lle creu nifer cyfyngedig o’r un darnau. Yn dra gwahanol i’r gwaith arbrofol, bydda i hefyd yn mynd ati i greu casgliad ymarferol ‘bob dydd’ ar gyfer y cartref. Dw i’n rhagweld y bydd natur y lliwiau yn newid unwaith eto.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Yna, yn dilyn y castio, mae’r clai’n cael ei danio’n uchel naill ai ‘bone china’ neu borslen.
Ar ben gwydredd, dw i’n rhoi darluniau gwnes i yn gynharach, wedi eu trosglwyddo i bapur transffer.
Mae’r darnau yn cael eu tanio rhwng 4-5 o weithiau sy’n debyg i'r broses creu yn y maes diwydiannol.
Nesa’, bydda i’n castio’r clai. Clai gwyn.
I orffen y gwaith, bydda i’n ychwnaegu lystar aur neu blatinwm.
Bydda i’n ychwanegu gwydredd o wahanol liwiau i’r clai sy wedi’i danio.
Bydda i’n defnyddio castio â slip sy’n golygu bod rhaid cychwyn drwy greu mowldiau o blastr cyn castio gyda’r clai ei hun.

Gweithgaredd 2

  • Ledi Gymreig (b)
    1
  • jwg (b)
    2
  • tebot (g)
    3
  • seld / dreser (b)
    4
  • lliein (g)
    5
  • yr aelwyd (b)
    6
  • cwpan (egb)
    7

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

ar fy liwt fy hun (idiom) - ar fy mhen fy hun - on my own

dyfrliw - paent wedi ei gymysgu â dŵr - watercolour

murlun(iau) - llun wedi'i beintio ar wal - mural(s)

trin a thrafod - y broses o newid rhywbeth - manipulate

cyfrwng cymysg - cymysgedd neu gyfuniad o ddeunyddiau mewn darn o waith celf - mixed media

porslen - cerameg sy'n cael ei wneud drwy danio caolin (sef clai gwyn tenau) i dymheredd uchel - mae’n creu crochenwaith ysgafn - porcelain

lystar - haenen denau o fetel heb ei ocsideiddio i greu gwydredd (glaze) disglair - lustre

platinwm - metel gwyn sy’n fwy caled nag aur, ac yn fwy prin a gwerthfawr - platinum

canhwyllbren (canwyllbrennau) - eitem sy’n dal cannwyll - candlestick

lithoffan - gwaith celf sy'n cael ei wneud drwy ysgythru (engraving) ar borslen neu blastig, ac sydd angen ei oleuo er mwyn gallu ei weld yn glir - lithophane

gosodwaith - darn o gelf 3D sy’n perthyn i le penodol - installation

preswyliad - pan fydd artist yn gweithio mewn sefydliad am gyfnod dros dro, gan roi cyfle i'r artist hwnnw weithio ar brosiect neu ddatblygu syniadau newydd mewn lle gwahanol – residency

tlws (tlysau) - medal neu gerflun sy'n cael eu rhoi fel gwobr – trophy/trophies

dogfennu - cadw cofnod o rywbeth neu gadw tystiolaeth o rywbeth – to document

nifer cyfyngedig - weithiau mae artistiaid yn rhyddhau ychydig o gopïau o’r un darn o waith gan roi rhifau arnynt – limited number