English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Ifor Davies

Pwy wyt ti?

Ifor Davies ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu ym Mhenarth.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Ramadeg Penarth.

Disgrifia dy addysg.

Astudiais i (I studied) yng Ngholeg Celf Caerdydd a Choleg Celf Abertawe. Wedyn rhwng 1959 a 1961, astudiais i ym Mhrifysgol Lausanne yn y Swistir.

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hoffi defnyddio pob math (all kinds) o gyfryngau (media) a defnyddiau (materials). Dw i’n mwynhau arbrofi (experiment) gyda chyfryngau anghyfarwydd (unfamiliar).

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Dww i’n dilyn proses wahanol bob tro. Dw i'n dechrau drwy edrych ar natur neu’r byd (world) o fy nghwmpas (around me).

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy ngeni yn Nhreharris yn 1935 a fy magu ym Mhenarth mewn cartref dwyieithog. Astudiais yng Ngholeg Celf Caerdydd a Choleg Celf Abertawe, ac yna o 1959 i 1961 astudiais ym Mhrifysgol Lausanne yn y Swistir. Roeddwn yn ddarlithydd hanes celf ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd ac ym Mhrifysgol Caeredin cyn cael fy mhenodi yn bennaeth adran Astudiaethau Diwylliannol, Coleg Addysg Uwch Gwent.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn 2002 enillais wobr aur am fy ngwaith Celfyddyd Gain ac fe ddefnyddiais y wobr i sefydlu fy ngwobr fy hun – Gwobr Ifor Davies. Fi sy’n beirniadu’r gystadleuaeth. Yn 2007 fe dderbyniais MBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Mae Gwyn Daniel wedi cael dylanwad mawr arna i. Fe wnaethon ni gyfarfod pan oeddwn i tua saith mlwydd oed. Fe gyflwynodd i mi drysorau’r iaith a diwylliant Cymru.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Os yw'n bosib, rwyf yn dilyn proses wahanol bob tro. Byddaf yn dechrau drwy edrych ar fyd natur neu’r byd o’m cwmpas. Neu byddaf yn creu darluniau o ddamweiniau e.e. paent wedi ei arllwys. Byddaf hefyd yn edrych ar hen luniau heb eu gorffen.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Byddaf yn defnyddio pob math o gyfryngau a defnyddiau i greu paentiadau, hyd yn oed pethau anghyfarwydd. (Rwy'n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau anghyfarwydd hefyd.)

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros y blynyddoedd?

Mae fy ymwybyddiaeth o iaith, hanes, diwylliant, mytholeg arbennig a symbolaeth Gymreig a Chymraeg wedi cynyddu, yn enwedig ers ymuno â Mudiad Celf Beca.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Roedd y tri wedi cael eu harestio am losgi ysgol fomio yn 1936 mewn protest. Edrychwch ar y llun, meddyliwch sut mae’r llun yn cynrychioli bywydau’r tri dyn a’r hyn a wnaethon nhw.

Gweithgaredd 2

“Mae fy ymwybyddiaeth o iaith, hanes, diwylliant, mytholeg arbennig a symbolaeth Gymreig a Chymraeg wedi cynyddu, yn enwedig ers ymuno â Mudiad Celf Beca.”
Cymreig
Cymraeg
Yr iaith Gymraeg, yn siarad Cymraeg neu’n ymwneud â’r iaith e.e. mae’r ferch yn siarad Cymraeg; mae’n gymuned Gymraeg Yn ymwneud â Chymru e.e. mae’r llun yn Gymreig; dydy’r ysgol ddim yn Gymreig, er bod yn plant yn siarad Cymraeg.

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

dwyieithog - yn siarad dwy iaith - bilingual

astudiaethau diwylliannol - astudiaethau sy'n perthyn i syniadau, arferion ac ymddygiad y gymdeithas - cutural studies

diwylliant - syniadau, arferion ac ymddygiad grŵp o bobl neu gymdeithas - culture

arllwys - to pour

anghyfarwydd - pethau dydyn ni ddim wedi arfer â nhw; pethau sydd ddim yn gyfarwydd - unfamiliar

ymwybyddiaeth - gwybodaeth, dealltwriaeth - awareness

mytholeg - chwedlau - mythology