English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Neale Howells

Pwy wyt ti?

Neal Howells ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yng Nghastell-nedd.

Disgrifia dy addysg.

Es i i Goleg Celf Caerfaddon.

Pa ddefnyddiau rwyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Peintiwr ydw i ond mae unrhyw beth (anything) sy'n glynu (attaches/sticks) at fwrdd (table) yn iawn gen i. Dw i’n defnyddio tecstilau, polystyren, metel, stensiliau, printiau sgrin ffotograffig, gwydr (glass) a gwahanol bethau eraill yn yr un gwaith ac yna dw i yn rhoi paent drostyn nhw (over them).

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy magu yng Nghastell-nedd. Yn 20 oed fe wnes i benderfynu mynd nôl i’r coleg a chefais y cyfle i astudio Safon Uwch Celf gydag athro gwych o’r enw Mr Wagstaff. Roedd e yn fy annog i ddeall mwy am beth oedd celf ac i ddatblygu fy sgiliau. Ar ôl gorffen y cwrs Safon Uwch es i i Goleg Celf Caerfaddon a graddio yn 1990 gyda BA mewn celf gain.

Ar ôl graddio fe fues i'n archwilio ardal ddiwydiannol de Cymru trwy greu gwaith newydd ac wedi pum mlynedd dechreuais arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Dros y ddau ddegawd nesaf gwnes i arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn 2012 fe wnes i arddangos fy ngwaith mewn saith prifddinas wahanol yn cynnwys Llundain, Paris, Bologna a Milan. Mae un o'r orielau hynny yn dal i fy nghynrychioli sef Oriel John Martin, Llundain. Mae'r gwaith celf rydw i'n ei wneud wedi cael ei ddefnyddio gan y Manic Street Preachers ar gyfer eu halbwm Know Your Enemy. Rydw i hefyd wedi cyfrannu at weithio gyda'r cyfarwyddwr ffilm Cymraeg Marc Evans ar Dal yma nawr, ffilm Gymraeg gyda chyfranwyr amrywiol.

Ers 2016 dw i wedi bod yn cydweithio gyda'r dylunydd Cymreig, Jayne Pierson, yn wythnos ffasiwn Llundain ar saith casgliad. Mae'r gwisgoedd hynny wedi eu gweld ar gerddorion fel Alicia Keys ar The Voice America, cerddorion ar The Voice UK a chystadleuwyr ar yr ‘X Factor’, yn ogystal ag enwogion eraill ac mewn cylchgronau. Rydym wedi gweithio gyda bandiau Prydeinig fel All Saints ar siacedi a fideos cerddoriaeth.

Mae gennyf hefyd gyhoeddiadau amrywiol ac rwy'n gwneud gwaith teledu, yn ogystal â gwaith dysgu ar gwrs Sylfaen yn Abertawe a choleg ffasiwn Conde Naste Llundain. Dw i wedi derbyn grantiau gan Gyngor Celfyddyau Cymru i deithio ac i sefydlu gwobrau creadigol. Roedd fy mhrosiect diweddaraf mewn ysgol yn Abertawe lle buon ni'n gweithio gydag artistiaid o gyfryngau eraill i gynhyrchu ffilm gyda'r disgyblion uwchradd a'r staff. Fe gyflwynais y ffilm honno i Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru. Mae gen i hefyd stiwdio ym Mhort Talbot.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Dau beth sydd wedi fy ysbrydoli yw’r cerflunydd Prydeinig Henry Moore a’r sinema. Artist oedd Henry Moore a wnaeth gerfluniau mawr gwych a welwyd yn bennaf yn yr awyr agored. Yr hyn a ddaliodd fy chwilfrydedd oedd nid yn unig eu maint ond sut y cymerodd ffurf ddynol a’i hail-greu yn strwythur symlach a oedd yn gain a chyffrous a modern.

Rwy’n hoffi bod pethau'n edrych yn dda. Dw i ddim yn poeni am gynrychiolaeth a symbolaeth mewn gweithiau celf oherwydd i mi yr hyn a welir yw’r hyn a gewch. Rwy’n credu bod hyn yn fwy gonest.

Wrth gwrs mae yna nifer o artistiaid y gwnes i ddod ar eu traws tra oeddwn i yn y coleg, fel Picasso, Warhol a Hirst, sydd hefyd wedi fy ysbrydoli.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Mae fy agwedd at fy ngwaith celf wedi newid dros y blynyddoedd ond eto mae wedi aros yr un peth. Mae deunyddiau newydd a mwy o hyder yn eich hunan yn gadael i chi wneud a meddwl am bethau'n wahanol ond y neges gyffredinol sydd gennyf yn rhedeg drwy'r gwaith yw 'CELF'. Mae celf wedi ei chreu o reolau a gydag amser rydych chi'n dysgu'r rheolau hynny, yna rydych chi'n torri'r rheolau. Mae gan gelfyddyd werth arbennig yn ein cymdeithas a phenderfyniad yr artist yw sut mae'n ei defnyddio. Mae'n esblygu'n gyson a dyma sy'n ei gwneud mor ddiddorol.

Rwyf wedi bod yn cydweithio gyda’r dylunydd Cymreig, Jayne Pierson, ar ddillad ar gyfer Wythnos Ffasiwn Llundain. Roedd peintio'r dillad yn hwyl i'w wneud ac ar ôl y casgliadau cyntaf fe wnes i ddysgu llawer am ffasiwn a sut i’w ddylunio; fe ddes i i ystyried hynny wrth i fi fynd ymlaen. Roedd y gwrthrychau roeddwn i'n eu creu yn y stiwdio yn dod yn gerfluniau cinetig yn cerdded ar catwalk, wedi eu hamgylchynu gan oleuadau’n fflachio a cherddoriaeth.

Mae cerddoriaeth yn bwysig iawn i fi. Rwy'n ei chwarae yn y stiwdio er mwyn ei mwynhau ond hefyd mae'n tanio syniadau neu'n fy ysbrydoli. Pe byddech yn darllen y geiriau fe fydden nhw yn eich atgoffa o ganeuon. Mae llenyddiaeth yn y gwaith yn bwysig iawn i fi. Dechreuais ddefnyddio’r geiriau yn fy ngwaith tra oeddwn i yn y coleg ac mae wedi glynu gyda mi ers hynny. Gyda'r geiriau lleiaf gallwch chi greu'r gwaith mwyaf.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Peintiwr ydw i ond mae unrhyw beth sy'n glynu at fwrdd yn iawn gen i. Erbyn hyn rwy’n defnyddio tecstilau, polystyren, metel, gwaith stensil, printiau sgrin ffotograffig, gwydr a gwahanol bethau eraill rwy'n dod o hyd iddyn nhw i gyd yn yr un gwaith, ac yna paent drostynt. Felly cymysgedd o’r cyfan! Mae angen cofio mai chi sy'n berchen ar y paentiad ac nad y paentiad sy'n berchen arnoch chi.

Yn ystod y cyfnod clo fe ganolbwyntiais ar arbrofi gyda syano-deipiau, sef proses ffotograffig sy'n defnyddio golau'r haul sydd wrth gwrs wedi'i ymgorffori yn y paentiad hefyd. Mae'n broses wych gyda lliwiau glas a gwyn ac yn syml i'w wneud, felly byddwn yn annog unrhyw un i ddarganfod mwy am hynny.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

graffiti
cartwn
ysgrifen
paent chwistrell
paent brwsh mawr
paent brwsh bach
hysbyseb
taflu paent
tasgu / arllwyso paent
crafu

Gweithgaredd 2

Neale Howells 2
  1. y cemegion Cyanoteip. yn ofalus.
  2. Rhaid gadael i ddatblygu am 24 awr.
  3. yn gyflym, dros y papur gyda'r hylif.
  4. y papur mewn lle tywyll i sychu.
  5. Wedyn, wrthrychau ar y papur.
  6. Rhaid papur aros o dan golau UV neu allan yn yr haul.
  7. nes bod y cemegion wedi troi'n lliw efydd.
  8. papur.
  9. Rhaid i chi papur yn drylwyr i gael gwaraed ar y cemegau.
  10. i'r print sychu ac i'r lliw droi'n las.

⚠️ Cofiwch fod angen goruwchwyliaeth oedolyn pan fyddwch yn defnyddio cemegau.

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

annog - perswadio’n gryf - to encourage

archwilio - edrych i mewn i rywbeth - explore

ardal ddiwydiannol - industrial area

degawd - cyfnod o ddeng mlynedd - decade

cyfarwyddwr - un sy’n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau wrth greu ffilm - director

cerflunydd - rhywun sy’n creu cerfluniau - sculptor

chwilfrydedd - awydd i ddarganfod neu ddysgu gwybodaeth newydd - curiosity

symbolaeth - yr arfer o ddefnyddio symbolau neu o roi ystyr symbolaidd i bethau - symbolism

ysbrydoli - tanio, ysgogi - inspire

esblygu - newid drwy ddatblygu - to evolve

cerfluniau cinetig - cerfluniau sy'n symud