English EN

Croeso i wefan Celftastig!

Gwefan i ddysgwyr 11-14 oed ac ymarferwyr ydy hon gyda’r nod o ddarparu offer a syniadau yn seiliedig ar weithgareddau i ysbrydoli'r dysgwyr i feithrin sgiliau archwilio, creu ac ymateb i gelf. Mae’r wefan wedi ei chynllunio fesul 4 thema, gyda chyfle i edrych yn fanylach ar waith tua 4 artist dan bob thema. Mae'r gweithgareddau yn ymdrin â nifer o themâu ac yn cyfateb i amrywiol feysydd dysgu a phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru. Y mae'r gweithgareddau wedi eu teilwra ar gyfer camau cynnydd 3 a 4 ond gellir eu haddasu yn ôl gallu a gofynion y dysgwyr. Nid oes angen i chi gyflawni pob gweithgaredd na dilyn y drefn y cânt eu cyflwyno o fewn y themâu.

Themâu ac Artistiaid

Amgylchedd

Mary Lloyd Jones, Manon Awst, Tim Pugh a Tim Davies

Hunaniaeth

Catrin Williams, Lowri Davies a Tomos Sparnon

Diwylliant

Ann Catrin Evans, Mari Thomas, Meinir Mathias a Ruth Jên

Gwleidyddiaeth

Ifor Davies, Iwan Bala, Neale Howells a Peter Finnemore

Dan bob artist, mae tair adran

Yn yr Adran ‘Archwilio’, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth ar ffurf testun, llun a sain am yr artistiaid – beth sy’n eu hysbrydoli nhw, sut mae archwilio drwy arbrofi yn creu gwahanol fathau o waith, a gweld enghreifftiau o’u gwaith a’r naws a syniadau gaiff eu cyfleu ynddynt.

Yn yr Adran ‘Ymateb’, ceir adnoddau a gweithgareddau enghreifftiol y gellir eu defnyddio i ddatblygu sgiliau ymateb personol a mynegi barn y dysgwyr i weithiau Celf, gyda ffocws arbennig ar ysgogi sgiliau llythrennedd drwy werthuso ac esbonio effaith naws, emosiwn a syniadau.

Yn yr Adran ‘Creu’, fe ddewch o hyd i enghreifftiau o gynlluniau ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar brosiectau i’w cwblhau, sy’n arbrofi gyda gwahanol dechnegau er mwyn efelychu steil yr artistiaid. Gallwch lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau neu gallwch eu defnyddio yn rhyngweithiol ar ddyfais trwy ddarllenwr pdf yr Hwb.

Archwiliwch a mwynhewch!

Ruth Jên

Pwy wyt ti?

Ruth Jên ydw i.

Ble cest ti dy fagu?

Ces i fy magu yn Cefnllwyd, Aberystwyth.

Ble est ti i’r ysgol?

Es i i Ysgol Uwchradd Penweddig.

Disgrifia dy addysg?

Astudiais i (I studied) yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd ble graddiais i (I graduated) mewn Celf Gain (Fine Art).

Pa ddefnyddiau wyt ti’n hoffi eu defnyddio?

Dw i’n hoffi defnyddio monoprint, torluniau leino (lino cuts), cludwaith (collage) a chlai. Dw i'n defnyddio gwaith fideo, animeiddio, toriadau papur, gosodiadau (installations) a chrochenwaith (crochenwaith = pottery).

Beth ydy dy ‘broses’ di?

Bydda i'n treulio diwrnod yn y stiwdio yn paratoi (prepare) y cefndir (background). Bydda i'n rhoi’r darnau papur (paper pieces) ar y perspecs ac yna bydda i'n ei roi drwy’r wasg (press). Mae’r darnau hyn yn cael gorffwys (rest) am 48 awr. Bydda i'n troi at y llyfr braslunio (sketchbook) a dewis syniadau (ideas). Bydda i'n defnyddio y dull monoprint ac yn rhoi’r darn papur ar haen (layer) o inc, ac yna’n llunio’r darlun ar gefn y papur. Dw i'n gadael i’r darn yma sychu (dry) am 48 awr cyn paentio â llaw (by hand).

Beth yw eich cefndir?

Cefais fy ngeni yn Aberystwyth yn 1964 a’m magu ym mhentref cyfagos Cefnllwyd. Astudiais yng Ngholegau Caerfyrddin a Chaerdydd lle graddiais mewn Celfyddyd Gain gan arbenigo mewn argraffu. Dw i wedi gweithio fel artist proffesiynol ers diwedd yr wythdegau. Yn 2015 fe wnes i gwblhau cwrs ôl-radd yn Ysgol Gelf, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Er mai printio yw fy mhrif gyfrwng, rwyf wedi ehangu fy sgiliau i gynnwys dylunio, darlunio, murluniau ac addysgu rhan-amser.

Beth neu bwy sy’n eich ysbrydoli/yn dylanwadu arnoch fwyaf?

Yn yr ysgol gynradd roedd gweithgareddau celfyddydol yn rhan bwysig o’r patrwm dyddiol. Fe fues i'n lwcus iawn hefyd o gael fy nysgu gan yr athro ysbrydoledig John Rowlands tra oeddwn i yn Ysgol Gyfun Penweddig, ac yna Osi Osmond tra oeddwn i ar gwrs sylfaen yng Nghaerfyrddin. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan yr hyn rwy’n ei weld o’m cwmpas. Gan fy mod i’n byw mewn ardal wledig mae byd natur, yr iaith a thraddodiadau sy’n ymwneud â’m milltir sgwâr yn bwydo i mewn i fy ngwaith yn naturiol. Rwy’n hoff iawn o straeon, llên gwerin a dywediadau. Rwy’n cael ysbrydoliaeth o drawstoriad eang iawn o wahanol artistiaid a ffynonellau. Rwyf wrth fy modd yn ymweld ag orielau ac arddangosfeydd i weld gwaith cyfoes a hanesyddol, yn ogystal â chrwydro strydoedd dinesig yn edrych am furluniau a graffiti. Fel un sy’n argraffu dw i wrth fy modd gyda gwaith y Mynegiadwyr Almaenig fel Erich Heckel,Kirchner a Nolde a gwaith argraffu Paul Peter Piech a'r argraffwr /paentiwr William Brown.

Esboniwch y broses byddwch yn ei dilyn wrth greu eich gwaith.

Mae’r broses o greu darn yn y gyfres ‘Menywod Cymreig’ yn digwydd mewn tair rhan. Byddaf yn treulio diwrnod yn y stiwdio yn paratoi'r cefndir ar gyfer y gwaith, drwy wlychu darn o bapur argraffu ‘Hahnemühle’ ac incio darn o bersbecs gyda chyfuniad o liwiau i greu cefndir. Byddaf yn gosod y darn papur ar y persbecs a’i roi drwy’r wasg. Mae’r darnau hyn yn cael gorffwys am 48 awr rhwng haenau o bren haenog gyda phwysau trwm arnynt. Bydd hwn yn golygu bod y papur yn sychu yn gwbl wastad heb grebachu. Byddaf yn troi at y llyfr braslunio, a dewis syniadau i’w datblygu. Gan ddefnyddio'r dull monoprint, byddaf yn gosod y darn papur efo lliw cefndir wyneb i lawr ar haen o inc, yna'n llunio’r darlun ar gefn y papur. Rhaid gadael i’r darn sychu am 48 awr cyn mynd ati i’w baentio â llaw.

Pa gyfryngau/defnyddiau rydych yn mwynhau eu defnyddio fwyaf?

Rwy’n defnyddio pob math o dechnegau yn fy ngwaith e.e., wrth ddatblygu'r gyfres ‘Y Ladis’ dw i wedi defnyddio monoprint, torluniau leino, cludwaith a chlai.

Rwy’n dewis deunydd a thechneg yn ôl yr hyn dw i am ei fynegi. Rwyf wedi arbrofi drwy wneud gwaith fideo, animeiddio, toriadau papur, gosodiadau a chrochenwaith.

Rwy’n ffafrio leino dros bob deunydd ac yn dwli ar ba mor eang yw’r defnydd ar gyfer gwneud marciau. Rwy’n darlunio rhywfaint pob dydd, boed e’n ddwdl cyflym neu'n wneud cynllun mwy cymhleth. Mae fy llyfr braslunio yn dod gyda fi i bobman.

Sut mae eich gwaith wedi newid neu ei ddatblygu dros gyfnod o amser?

Er mwyn gwneud bywoliaeth fel artist llawrydd, dw i wedi gorfod datblygu fy sgiliau a dysgu technegau a dulliau newydd o weithio. Er bod y gyfres Y Ladis yn boblogaidd ac yn llwyddianus iawn dw i ddim am gyfyngu fy hunan i’r arddull yma. Rwy’n fodlon trio pethau newydd ac yn aml yn chwarae gyda deunyddiau heb unrhyw fwriad i greu darn o gelf, dim ond arbrofi efo’r deunydd a dysgu wrth fy nghamgymeriadau. Dw i dal i gredu mai darlunio, edrych ac astudio yw’r sylfaen orau beth bynnag yw’r cyfrwng dw i’n ei ddewis i greu darn gorffenedig.

Cwblhewch y gweithgareddau hyn. Bydd y gwaith yn cael ei farcio wrth i chi fynd ymlaen. Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Gweithgaredd 1

Mae llawer o ddelweddau a symbolau traddodiadol yng ngwaith Ruth Jên. Mae hefyd yn defnyddio penillion, dywediadau ac idiomau.

gwnewch y pethau bychain
wel dyma ni’n dwad gyfeillion diniwad
gair mam a bery’n hir
a fynno iechyd bydd lawen
ymestyn cam ceiliog

Dyma rai idiomau/ymadroddion defnyddiol. Allwch chi baru’r idiom gyda’r diffiniad?

daw eto haul ar fryn
traed moch
heb siw na miw
rhoi’r ffidil yn y to
cael llond bol
gwneud eich gorau glas
dan ei sang
taro’r hoelen ar ei phen
cadw’r ddysgl yn wastad
ar bigau’r drain
dim dwywaith amdani
drwg yn y caws
llawn iawn
gwneud eich gorau
pethau’n mynd o’i le, allan o reolaeth
bydd pethau’n gwella
yn dawel iawn
bod yn deg i bawb
rhoi’r gorau i rywbeth
cael digon o rywbeth
bod yn nerfus
y person drwg, y person sy’n achosi trafferth
yn sicr, heb amheuaeth
cael rhywbeth yn gywir

Gweithgaredd 2

Gwyliwch y fideo hwn sy’n disgrifio proses Ruth Jên wrth greu’r Ladis Cymreig:

Rhowch y cyfarwyddiadau hyn yn y drefn gywir:

Defnyddir paent dyrflliw efo pigment uchel iawn i liwio’r gwaith, mae’r tâp brown yn cadw’r papur yn wastad a fflat tra’n sychu.
Wrth roi pwysau ar y pensil mae’r inc yn cael ei drosglwyddo i’r papur.
Rolio inc du ar ddarn o wydr efo roler.
Gosod papur ar wyneb yr inc a gweithio’r llun efo pensil
Rhaid gadael i’r darn sychu am 48 awr.

Cofiwch dynnu sgrinlun o’ch atebion i’w gadw yn eich cofnod personol.

Geirfa

argraffu - to print

murluniau - lluniau sydd wedi cael eu paentio ar wal - murals

ysbrydoledig - rhywun sy'n annog a thanio brwdfrydedd - inspirational

traddodiadau - arferion sy’n cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall - traditions

llên gwerin - gwybodaeth neu gof am gredoau, arferion, traddodiadau sy’n perthyn i genedl neu grŵp arbennig - folk tales

Mynegiadwyr - genre artistig a ddechreuodd yn Ewrop yn y 1920au; yng nghelf y Mynegiadwyr, mae'r darlun o realiti yn cael ei newid er mwyn mynegi teimladau neu syniadau mewnol yr artist - Expressionists

papur argraffu Hahnemühle - papur unigryw ar gyfer gweithiau celf

persbecs - math o blastig acrylig sy'n dechrau fel hylif ac yna'n cael ei ffurfio'n blastig cryf - perspex

monoprint - ffordd o wneud print lle mae'r llun yn gallu cael ei greu unwaith yn unig

cludwaith - gwaith celf lle mae defnyddiau gwahanol yn cael eu trefnu a’u gludio ar gefnlen - collage

artist llawrydd - artist sy'n rhedeg ei fusnes celf ei hun, gan benderfynu ar ei oriau gwaith a'i gleientiaid - freelance artist